Arglwydd Llafur wedi marw tra'n nofio yn Afon Gwy

Aeth yr Arglwydd Lipsey i Dŷ'r Arglwyddi yn 1999Ffynhonnell y llun, Tŷ'r Arglwyddi
Disgrifiad o’r llun,

Aeth yr Arglwydd David Lipsey i Dŷ'r Arglwyddi yn 1999

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod corff yr Arglwydd Llafur David Lipsey wedi'i ganfod yn Afon Gwy.

Mae'n debyg ei fod wedi marw tra'n nofio yn yr afon yn ardal Y Clas-ar-Wy, Powys.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn adroddiad "ynghylch diogelwch dyn a welwyd ddiwethaf yn nofio yn Afon Gwy".

"Wedi chwilio helaeth amdano ar 1 Gorffennaf yn anffodus, gallwn gadarnhau bod corff yr Arglwydd David Lipsey wedi'i ddarganfod," meddai.

"Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod ac ry'n yn meddwl amdanyn nhw yn ystod yr amser anodd hwn.

"Maen nhw wedi gofyn am i bobl barchu eu preifatrwydd."

Aeth yr Arglwydd Lipsey i Dŷ'r Arglwyddi yn 1999 - cyn hynny bu'n newyddiadurwr.

Bu hefyd yn ymgynghorydd Downing Street pan oedd Jim Callaghan yn brif weinidog.

map

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig