Mam bachgen 9 oed yn galw i'r dyn a'i darodd fynd at yr heddlu

Roedd Theo Rees ond llathenni o'i gartref pan gafodd ei daro
- Cyhoeddwyd
Mae mam bachgen 9 oed a gafodd ei daro oddi ar ei feic yn gofyn i yrrwr car sy'n cael ei amau o daro a ffoi i fynd at yr heddlu.
Dyw Theo Rees ddim yn cofio dim ar ôl gweld car yn gyrru tuag ato ger ei gartref ond cafodd tri asgwrn eu torri yn ei goes dde yn y gwrthdrawiad.
Mae ei fam, Jo Newman yn disgrifio'r cyfnod wedi'r digwyddiad fel un "erchyll" ac yn dymuno na fyddai unrhyw deulu arall yn mynd trwy brofiad tebyg.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion i'r digwyddiad yn Waunfelin ger Pont-y-pŵl, ac am unrhyw fideo o gar BMW yn yr ardal ar y pryd.

Jo Newman a'i mab Theo yn dilyn llawdriniaeth yn ysbyty Arch Noa Plant Cymru, Caerdydd
Fe gafodd Theo Rees ei anafu tua 19:10 ar 8 Orffennaf ac roedd ond llathenni o'i gartref pan gafodd ei anafu.
"Rydw i'n disgwyl tan yr adeg yna fel bo' traffic prysur y dydd ar ben," meddai Jo Newman o'i chartref yn Waunfelin.
"Mae gan Theo 'airtag' ar ei feic fel 'mod i yn medru gweld ble mae o ar fy ffôn, ac ar ôl 'chydig mi welais ei fod o dal ar waelod y ffordd."
Fe aeth Jo Newman allan at ei mab pan ddywedodd cymydog wrthi fod Theo wedi cael ei daro oddi ar ei feic.
"Mi ddywedodd y cymydog hefyd fod dyn oedd mewn car BMW lliw arian gyda Theo, ond erbyn i mi gyrraedd doedd y dyn ddim yna."
Yn ôl Jo Newman mi ddywedodd cymydog arall fod y dyn wedi gyrru i ffwrdd cyn iddi gyrraedd.
"Dwi'n amau i'r dyn symud Theo ar ôl iddo gael ei daro," meddai, "ac iddo dynnu ei helmed i ffwrdd er mwyn gweld os oedd o'n fyw."
Yn ôl Jo Newman roedd hi'n amlwg fod crimog (shin) ei mab wedi torri.
Ond doedd hi na neb arall wedi sylweddoli bod y ffemwr, asgwrn mwya'r goes, wedi torri hefyd tan i'r criw ambiwlans geisio ei symud.
"Dwi erioed wedi clywed sgrechian fel yna yn dod o geg plentyn o'r blaen," meddai Jo.
"Roedd yn gwbwl erchyll."
Mi gymerodd ddwy awr i gael Theo i mewn i'r ambiwlans ac i'w baratoi am y daith i ysbyty Arch Noa Plant Cymru yng Nghaerdydd.
Cafodd lawdridniaeth y bore wedyn.

Mae Theo'n wynebu misoedd cyn y bydd yn cael dechrau cerdded eto
"Mae Theo yn gwneud yn well nawr fod e gartre," meddai ei fam, "ond mae mewn poen o hyd, yn enwedig pan mae'n deffro neu'n ceisio mynd i gysgu".
Mae Jo Newman yn trio meddwl y gorau o'r person sy'n gyfrifol am y gwrthdrawiad.
"Dwi'n berson eitha empathetig," meddai, "ac efallai i'r dyn fynd i banic a wedyn iddo ffoi.
"Ond dwi'n gobeithio fod ganddo gydwybod ac y bydd yn mynd at yr heddlu a chyfaddef" ychwanegodd.
Yn ôl Jo Newman, sy'n derbyn triniaeth ar ôl cael deiagnosis o ganser y croen flwyddyn diwethaf, mae ymateb ei theulu, ffrindiau a'r gymuned leol wedi bod yn anhygoel.
"Mae ysgol Theo wedi codi arian ac mae ei glwb pêl-droed am gynnal diwrnod arbennig ym mis Awst i godi arian.
"Mae wedi bod yn sioc i bawb," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.