Arestio dyn ar ôl i drên i Gaerdydd daro tractor a threlar

GwrthdrawiadFfynhonnell y llun, SWNS
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 56 o bobl ar y trên pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i drên oedd yn teithio i Gaerdydd daro tractor a threlar ar groesfan yn Sir Henffordd.

Nid yw'r trên wedi dod oddi ar y rheilffordd, ond y gred yw bod nifer o'r teithwyr wedi cael anafiadau.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod 17 o bobl yn cael eu hasesu gan arbenigwyr meddygol, a bod dau o'r rheiny wedi cael eu cludo i'r ysbyty.

Cafodd dyn ei hedfan i'r ysbyty yn Henffordd, ond dyw ei anafiadau ddim yn peryglu ei fywyd, tra bo dynes wedi cael ei chymryd i'r un ysbyty mewn ambiwlans arferol.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Mercia bod dyn 32 oed o Bromyard yn Sir Henffordd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o beryglu diogelwch ar y rheilffordd.

LLanllieni
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer fawr o gerbydau brys wedi mynychu'r digwyddiad, gan gynnwys yr ambiwlans awyr

Roedd y trên yn teithio o Fanceinion i Gaerdydd, ac yn cario 56 o deithwyr.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad rhwng Llanllieni (Leominster) a Llwydlo tua 10:45.

Dywedodd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) bod tîm o archwilwyr wedi eu hanfon i'r safle er mwyn casglu tystiolaeth, ac y byddai penderfyniad ar a oes angen ymchwiliad llawn dros y dyddiau nesaf.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod y gwasanaeth 08:30 wedi taro'r cerbyd ar groesfan - croesfan sydd ond yn cael ei defnyddio gan gerbydau amaethyddol ac sydd yn anodd ei chyrraedd gan geir.

Mae pob gwasanaeth rhwng Henffordd a Craven Arms wedi ei atal, gyda Network Rail yn rhybuddio y gallai'r gwrthdrawiad problemau weddill y dydd.

Llanllieni
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 17 o'r 56 o bobl oedd ar y trên eu hasesu ar ôl y gwrthdrawiad

Ar eu gwefan mae Trafnidiaeth Cymru'n dweud bod "pob llinell ar stop yn yr ardal, rydym wrthi'n trefnu gwasanaethau bws brys".

Dywedodd llefarydd Trafnidiaeth Cymru y dylai pobl wirio'r wybodaeth ddiweddaraf, dolen allanol cyn dechrau ar eu taith, gan ddweud y bydd tocynnau cael eu derbyn gan ddarparwyr eraill.

Pynciau cysylltiedig