Ysgol yn ailagor am gyfnod ar ôl marwolaeth 'drasig' disgybl 12 oed

Ysgol RhydywaunFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y disgybl ei ddisgrifio fel "aelod arbennig a gwerthfawr" o gymuned Ysgol Rhydywaun

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol uwchradd wedi ailagor am gyfnod yn dilyn marwolaeth disgybl yn "ddirybudd" dros y penwythnos.

Cadarnhaodd Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun, sydd ym Mhenywaun, Rhondda Cynon Taf, farwolaeth "drasig" y disgybl o flwyddyn 7.

Cafodd y disgybl ei ddisgrifio fel "aelod arbennig a gwerthfawr o gymuned yr ysgol", gan ddweud bod meddyliau pawb yn yr ysgol gyda theulu'r unigolyn.

Bu'r ysgol ar agor am rai oriau ddydd Mercher a bydd ar agor eto ddydd Iau er mwyn i ddisgyblion gael cyfle i siarad gyda staff a derbyn cymorth arbenigol.

'Episod meddygol'

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw toc wedi 18:20 nos Sadwrn i adroddiadau fod plentyn 12 oed wedi cael "episod meddygol" ym Merthyr Tudful.

Cafodd y plentyn ei gludo i'r ysbyty ond bu farw, medd y llu.

Dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.