Atyniad Stadiwm Principality yn cau wedi i gytundeb ddod i ben

- Cyhoeddwyd
Dyw hi ddim yn bosib ar hyn o bryd dringo i fyny Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ar ôl i'r cytundeb gyda'r cwmni sy'n gyfrifol am yr atyniad teithiau antur ddod i ben.
Nid yw'n bosib bellach archebu dyddiad ar gyfer taith 'Scale the Stadium' a does dim modd defnyddio talebau.
Dywedodd cwmni Wire and Sky a oedd yn gyfrifol am y daith nad oeddent wedi "gallu cytuno ar strwythur masnachol newydd".
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod "newyddion cyffrous am bartneriaeth newydd yn dod yn fuan".
Fe agorodd atyniad Stadiwm Principality yn 2024
Agorodd yr atyniad ym mis Ebrill 2024 gyda phobl yn cael cynnig y cyfle i ddringo i fyny ochr y stadiwm am £44 ac roedd y gost i gerdded ar hyd y to ac abseilio yn ôl i lawr yn £89.
Yn adroddiad blynyddol Undeb Rygbi Cymru y llynedd, soniwyd am yr atyniad fel rhan o wariant cyfalaf yr undeb gan dynnu sylw at gost o "£3.9m ar gyfer adeiladu a datblygu y profiad".
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2024
Ond mewn cyfweliad â Wales Online fis Ebrill diwethaf, dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, fod yr atyniad yn tanberfformio ac nad oedd yn cyflawni "yn agos at yr hyn yr oeddem wedi gobeithio amdano".
Mae cwmni Wire and Sky yn cynnig anturiaethau abseilio tebyg yn Stadiwm Tottenham Hotspur yn Llundain ac Anfield yn Lerpwl.
'Agor eto'n fuan'
Mewn datganiad ar Facebook ddiwedd fis diwethaf, dywedodd y cwmni: "Nid yw Wire and Sky a Stadiwm Principality wedi gallu cytuno ar strwythur masnachol newydd.
"Cytunwyd ar y cyd y bydd y cytundeb presennol yn dod i ben tra bod strategaeth newydd yn cael ei harchwilio."
Mewn datganiad dywedodd Undeb Rygbi Cymru y byddai'n agor eto'n fuan.
"Byddwn yn llunio strategaeth newydd ar gyfer atyniad SCALE a bydd cyhoeddiad yn ystod yr wythnosau nesaf wedi i'n cytundeb ni gyda'r cwmni presennol Wire and Sky Ltd ddod i ben."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.