Cymru i 'arwain y byd yn y chwyldro gwyrdd'?
- Cyhoeddwyd
Agorodd canolfan ailgylchu a gwastraff Nant-y-caws ger Caerfyrddin yn 2022.
Mae'r nwyddau sy' ar werth wedi'u hachub o'r domen sbwriel cyn cael eu hadnewyddu er mwyn eu gwerthu eto.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gobeithio y bydd y ganolfan yn help i addysgu pobl am bwysigrwydd ailddefnyddio a bod yn hunangynhaliol er lles y blaned.
Dywed y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, aelod cabinet newid hinsawdd y cyngor, fod yn rhaid "ail-ddysgu sut ma' troedio yn ysgafn ar y ddaear ymhob agwedd o'n gwaith ni".
"Yn hanesyddol mae Cymru wedi arwain y byd i'r chwyldro diwydiannol, gyda phrosiectau fel hyn, pwy â ŵyr y gall Cymru arwain y byd yn y chwyldro gwyrdd."