Galw am fwy o bwyslais ar gynlluniau gofal ataliol
- Cyhoeddwyd
Mae galw am ragor o bwyslais ar gynlluniau gofal ataliol, er mwyn caniatáu i bobl allu aros yn eu cartrefi neu adael ysbyty’n gynt gyda phecyn gofal.
Yn ôl Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, mae angen sicrhau bod pawb yn derbyn y gofal gorau a bod cysondeb ar hyd a lled Cymru yn y gwasanaeth sy'n cael ei gynnig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "hynod ddiolchgar am yr holl waith y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud ac yn cydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal".
Mae Ann Thomas yn gyn-athrawes 81 oed, ac wedi cael diagnosis o ddementia.
"Oni bai bo' fi yn cael help gan ofalwyr, bydden i yn ddiflas ofnadwy, achos fi ffaelu 'neud dim byd i fi fy hunan.
“Fi'n gallu delio â phethe o ddydd i ddydd ond fi ffaelu cofio be' fi 'di 'neud, ac mae rhaid i fi gael yr help yma!"
Yn ei chartref yn Sanclêr mae hi'n derbyn gofal, gan gynnwys gan gwmni preifat Side by Side sy’n cael ei redeg gan Claire Stupple.
Mae Claire yn galw yn rheolaidd i gael sgwrs a chadw cwmni i Ann.
Mae’n teimlo fod nifer o heriau yn wynebu'r gwasanaeth.
"Rwy'n meddwl ei bod hi'n annheg fod pobl fel Ann yn gorfod talu am y gofal dwi yn gynnig," meddai Claire
“Mae gofalwyr yn dod yma i helpu i olchi a gwisgo Ann ond ma' rhaid iddi dalu am gwmni neu am cwtsh.”
Mae’r gwasanaeth yn rhan o gynllun Catalyddion Gofal, sydd newydd ehangu o Sir Benfro i mewn i Sir Gaerfyrddin.
Mae’r prosiect yn cefnogi pobl sydd â natur ofalgar a syniad busnes da i sefydlu eu menter gofal neu gymorth eu hunain.
Fe fydd hyn wedyn yn helpu i roi mwy o ddewis o fentrau gofal a chymorth lleol, fel bod pobl yn gallu dewis cynllun neu wasanaeth sy'n bersonol neu hyblyg ac yn addas ar eu cyfer.
Mae cynlluniau ataliol sy'n helpu i sicrhau fod cleifion a phobl hŷn yn gallu aros yn eu cartrefi gyda chefnogaeth cynllun gofal yn bwysig, yn ôl Ymddiriedolaeth y Gofalwyr.
Dywedodd Catrin Edwards o'r ymddiriedolaeth eu bod "yn galw am fwy o bwyslais ar brosiectau ataliol".
"Os ydyn ni yn edrych ar gyllideb gwasanaeth gofal cymdeithasol o’i gymharu â'r gwasanaeth iechyd, mae e jyst yn bitw bach o’i gymharu," meddai.
"Ond ni hefyd yn gwybod fod buddsoddiad bach mewn gwaith ataliol yn y gymuned, er enghraifft, wrth roi 'chydig o help i ofalwyr a rhoi 'chydig o gymorth iddyn nhw - mae hwnna wedyn yn fuddsoddiad sy'n gallu arbed rhagor o arian yn yr hir dymor."
Mae Ann Thomas yn hapus iawn â'r trefniadau gofal sydd ganddi, ond mae hi'n poeni am bobl eraill.
"Rwy’n credu fod isie siarad mwy am hyn achos ma' llawer mwy o bobl fel fi i gael nawr," meddai..
“Mae lot, lot o bobl isie help a ma' isie helpu pob un.
"Dwi yn lwcus, ma' helpwyr gyda fi, ond ma' gyda fi un ffrind a dyw hi'n gweld neb.
"Mae'n anodd iawn wedyn, yndyw hi?”
'Cydnabod rôl hanfodol gofalwyr'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl waith y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud ac yn cydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal.
"Rydym yn darparu £1m bob blwyddyn drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gefnogi gofalwyr di-dâl pan mae pobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty a'u rhyddhau.
"Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gynyddu gwasanaethau cymunedol sy'n helpu pobl i fyw ac heneiddio'n dda gartref, atal mynediad diangen i'r ysbyty a'u helpu i ddychwelyd adref yn gyflym lle roedd angen gofal ysbyty.
"Rydym hefyd yn ariannu gwasanaethau cyfeillio drwy'r Gronfa Integreiddio Ranbarthol, sy'n cefnogi pobl i aros yn eu rhwydweithiau cymdeithasol ac i aros yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y gallant."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd23 Chwefror