10 podlediad difyr o Gymru
- Cyhoeddwyd
Ydych chi'n chwilio am bodlediad newydd i wrando arno? Mae na gymaint o rai gwahanol ar gael erbyn hyn nes ei bod yn anodd gwybod lle i ddechrau; mae 'na rai am bopeth, o droseddau i raglenni teledu i selebs yn bwrw eu boliau am bopeth dan haul!
Felly, rydyn ni wedi casglu deg o bodlediadau difyr yn Gymraeg neu am Gymru sydd ar gael ar hyn o bryd a'u rhoi mewn un rhestr syml, gan obeithio bod rhywbeth at ddant pawb!
Pod Midffîld!
Fel y gallwch ddyfalu o enw'r podlediad, trafod y gyfres deledu C'mon Midffîld y mae hwn. Tri ffrind, Caio, Gethin a Tom, sy'n mynd ati i drafod penodau'r gyfres gomedi fesul un. Bydd gwesteion arbennig, gan gynnwys Ian Gwyn Hughes a Siân Naomi, yn ymuno â'r triawd yn ystod y gyfres i siarad am eu hymddangosiadau eiconig nhw ar y rhaglen.
Gyda hyd penodau'n amrywio o 20 i 40 munud maen nhw'n ddigon byr i'w cwblhau mewn un gwrandawiad – yr hyd perffaith ar gyfer gwrando ar y ffordd i'r gwaith!
Gwreichion
Roedd ymgyrch Meibion Glyndŵr yn un o'r cyfnodau mwyaf cythryblus yn hanes diweddar Cymru. Yn Gwreichion, mae Ioan Wyn Evans yn edrych eto ar y cyfnod hwnnw.
Mae'n siarad gyda thystion i'r tannau, diffoddwyr tân a phobl fu'n gweithio gyda'r heddlu wrth iddo ail-ymweld â deng mlynedd o weithredu gan Feibion Glyndŵr.
The Crossbow Killer
Yn 2019 cafodd pensiynwr o'r enw Gerald Corrigan ei saethu'n farw gan fwa saeth yn ei gartref ym Môn. Roedd yn un o'r llofruddiaethau mwyaf milain yn hanes Ynys Môn. Heb gymhelliad amlwg nac eglurhad dros y fath greulondeb roedd dirgelwch mawr ynghylch yr achos.
Yn The Crossbow Killer mae Meic Parry a Tim Hinman yn ymchwilio i ddirgelwch achos y llofruddiaeth sydd, yn ôl y podlediad, yn "rhyfeddach na ffuglen".
Podlediad Cylchdro
Mari Elen Jones sy'n gyfrifol am y podlediad yma sy'n trafod y mislif. Mari oedd yn gwneud y podlediad Gwrachod Heddiw a enillodd wobr yn y British Podcast Awards yn 2022.
Yn ôl Mari mae Podlediad Cylchdro yn trafod "y mislif yn ei holl ogoniant! O ddyddiau’r ysgol i’r menopôs, o boeni am toxic shock syndrome i’r nerth ti’n deimlo wrth ymgyfarwyddo dy hun hefo dy gylchdro."
Yn ymuno â Mari i drafod y profiad benywaidd yma mae disgyblion ysgol, blogwyr ac arbenigwyr. Mae'r bennod gyntaf ar gael nawr.
Ysbeidiau Heulog
Gyda 100 o benodau mae yna ddigon o ddewis yn Ysbeidiau Heulog. Dechreuodd y podlediad yn 2020 yn ystod y cyfnod clo ac mae wedi mynd o nerth i merth ers hynny.
Yr awdur Llwyd Owen a'r newyddiadurwr Leigh Jones sy'n croesawu rhai o enwau mwyaf adnabyddus Cymru atynt i drafod pethau mawr bywyd. Wedi ymuno â nhw mae pobl fel Elis James, Ffion Dafis, Gruff Rhys a neb llai na Beti George!
Er bod y ddau'n camu'n ôl o bodledio am gyfnod bydd y penodau sydd ar gael yn siŵr o'ch diddanu am fisoedd.
Colli'r Plot
Mae hwn yn bodlediad i unrhyw lyfrbryfyn. Pedwar o awduron poblogaidd Cymru: Manon Steffan Ros, Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn a Siân Northey yn trafod llyfrau a llenyddiaeth. Digon o chwerthin a llawer o dynnu coes! Mae gwrando fel clustfeinio ar sgwrs criw o ffrindiau.
Cafodd pennod arbennig o Colli'r Plot ei recordio'n fyw yn y Babell Lên yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
Allez les Rouges
Bydd Cwpan Rygbi'r Byd yn dechrau ym mis Medi ac mae Lauren Jenkins yn barod i'ch harwain drwy'r cwbl ym mhodlediad newydd S4C, Allez les Rouges.
Gyda chwaraewyr fel Rhys Priestland a Rhys Patchell yn ymuno â hi i ddod â'r newyddion diweddaraf o'r garfan, dadansoddi gemau ac edrych ymlaen am y gemau nesaf y podlediad hwn ydy'r lle i ffans rygbi ddod am ffics ychwanegol o'r bêl hirgron.
Acid Dream: The Great LSD Plot
Wedi'i draddodi gan Rhys Ifans, mae'r podlediad hwn yn adrodd hanes dyfodiad LSD i Bowys. Yn y 1970au, mae'n debyg bod tua 60% o LSD y byd yn dod o dyddyn bychan yng nghefn gwlad Cymru. Efallai y bydd sawl un wedi clywed am y 'drug-bust' Operation Julie, ond y tro hwn daw'r stori o enau'r rhai oedd yn ei chanol hi.
Mae Acid Dream: The Great LSD Plot yn olrhain stori Richard Kemp a Christine Bott a'u breuddwyd nhw i chwyldroi a thrawsnewid y ffordd y byddai pobl yn gweld y byd.
Pigion
Dysgu Cymraeg? Neu'n adnabod siaradwyr Cymraeg newydd? Mae Pigion yn bodlediad o glipiau gorau'r wythnos oddi ar BBC Radio Cymru wedi'u dewis yn arbennig i helpu dysgwyr ar eu taith i wella eu Cymraeg.
Mae'n cynnwys cyflwyniad syml a chlir i'r clipiau fel bod siaradwyr llai hyderus yn gallu deall y cyd-destun cyn mynd ati i wrando ar y sgyrsiau a'u mwynhau.
Esgusodwch Fi!
Caewch y drysau yn y cefn, mae Iestyn a Meilir wedi cyrraedd ac maen nhw eisiau eich sylw! Yn y podlediad yma, mae Iestyn Wyn a Meilir Rhys Williams yn siarad gyda llwyth o westeion i drafod popeth LHDTC+. Cyhoeddwyd y podlediad yma yn 2021 gyda phobl fel Ellis Lloyd Jones, Owain Wyn Evans ac Aisha May Hunte yn rhannu eu straeon LHDTC+ nhw.
Dyma'r cyfle perffaith i chi wibio drwy'r gyfres gyntaf cyn i'r ail gyfres ddod allan (esgusodwch y pun!) yn hwyrach eleni.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2023