Adrodd stori'r llofruddiaeth wnaeth ysgwyd Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae podlediad newydd gan BBC Cymru yn trafod llofruddiaeth brawychus a ddigwyddodd ar Ynys Môn ym mis Ebrill, 2019.
Syfrdanodd yr achos y gymuned leol, Cymru gyfan a thu hwnt, a'r prif reswm am hyn oedd y dull o lofruddio, sef drwy ddefnyddio bwa croes (crossbow).
Meic Parry yw cynhyrchydd ac un o gyd-gyflwynwyr The Crossbow Killer. Felly, beth wnaeth ddenu Meic at y stori?
"Roedd hi'n stori ddiddorol o'r dechrau. Dwi'n cofio'r stori'n torri, bod 'na ddyn 'di cael ei saethu efo crossbow ar Ynys Môn. Dydy rhywun yn cael ei saethu ddim yn digwydd yn aml iawn yn nghefn gwlad Cymru, ond roedd clywed am rywun yn cael ei saethu efo bwa croes yn hollol syfrdanol."
'Dirgelwch o'r cychwyn'
"Ac wedyn daeth adroddiadau yn gofyn os mai damwain oedd o, a bod nhw'n chwilio am rywun oedd ella'n hela. I mi, fel rhywun sy'n dod o gefndir cefn gwlad, doedd hynny ddim yn gwneud synnwyr - sut ellith rywun gael ei saethu ar ddamwain efo crossbow? Roedd yr holl beth yn ddirgelwch o'r cychwyn."
Mae Meic wedi gweithio gyda radio a sain drwy gydol ei yrfa, ac roedd y stori yma'n un yr oedd o'n teimlo fyddai'n gallu cael ei addasu i bodlediad yn llwyddiannus.
"O ran fi'n bersonol, dwi 'di gweithio ym myd radio ers blynyddoedd a dwi'n hoff iawn o bodlediadau trosedd neu true crime, ac mi ro'n i, am wn i, yn chwilio am fath o ddirgelwch - beth 'swn i'n gallu ei gynhyrchu. Fel a'th y stori yn ei blaen, ac yn fwy diddorol, 'nes i ffeindio allan fod gen i gysylltiadau personol efo'r stori, a daeth hi mwy a mwy clir bod hi'n bosib i mi 'neud o.
"O'n i'n synnu i raddau bod y peth heb gael ei wneud ynghynt, achos mae o ar blât rili - yr holl wybodaeth allan 'na, ac mae o'n andros o ddiddorol."
Roedd rhaid bod yn drylwyr gyda'r gwaith ymchwil ar gyfer y gyfres, gan geisio siarad â phobl sydd yn ymddiddori mewn defnyddio bwâu croes.
"Roedd rhaid darllen lot am yr hanes, yr adroddiadau newyddion, mynd ar Facebook a Reddit ble mae bobl yn trafod pethau, a chysylltu efo nhw. Mae'n rhyfeddol faint o bobl ti'n dod ar eu traws sy'n trafod erthyglau neu'n rhoi sylw ar erthyglau - ar fforwm Ynys Môn neu fforwm Crossbows UK ar Facebook. Dydi pawb ddim isho siarad, ond mi gei di wybodaeth am bethau.
"O ran cyfranwyr, wrth gwrs roedd y BBC yn dilyn hwn, efo pobl fel Sion Tecwyn, a gohebydd y Daily Post, Steve Bagnall, sydd 'di bod yn andros o dda efo fi. Ac hefyd Elen Wyn a Brendon Williams; gwahanol ohebwyr 'nath ddilyn y stori."
Marwolaeth 'erchyll'
"Roedd o'n achos anarferol iawn - 'di pobl ddim yn cael eu saethu'n aml iawn, yn arbennig cael eu saethu, neu dienyddio i ddweud gwir, efo crossbow.
"Ac mae rhaid ni gofio bod Gerald Corrigan 'di marw yn y modd mwya' erchyll, gan gymryd tair wythnos i farw yn yr ysbyty o gymhlethdodau ofnadwy a phoenus iawn. Mae'n bwysig iawn cadw y manylion hynny mewn cof, ac mi gewch chi glywed am hynny yn y podlediad."
Ym mis Chwefror, 2020, cafodd gŵr o Fryngwran, Terence Whall, ei ffeindio'n euog o lofruddio Mr Corrigan.
Mae Meic yn dweud fod yr Heddlu wedi gwneud gwaith arbennig o dda i erlyn Whall: "Roedd yr achos roedd yr heddlu yn ei adeiladu o'r cychwyn efo un darn bach o dystiolaeth, y saeth ei hun, mae'n rhyfeddol sut 'nathon nhw ddod â'r holl bethau at ei gilydd."
Dim tystiolaeth DNA nac arf
"Mae'n rhaid cofio doedd 'na ddim tystion na thystiolaeth fforensig, dim DNA na hoelion bysedd na dim. Doedd 'na ddim arf chwaith - 'nath neb ffeindio'r crossbow ei hun. Dim ond un darn o dystiolaeth oedd yn bodoli, sef y saeth.
"Ond maen nhw wedi paentio darlun clir iawn, iawn, o beth ddigwyddodd o noson honno, a sut 'nath y llofrudd fynd yno i dŷ Gerald Corrigan i'w saethu o.
"Mae'r achos 'ma wedi rhoi'r chwyddwydr ar fyd o drosedd isfyd o dwyllo a throseddu yng ngogledd Cymru - rhywle bydde'r rhan fwyaf o bobl yn credu i fod yn lle heddychlon ble mae pobl yn parchu'r gyfraith. Mae'r pobl drwy gydol y podlediad yn dweud 'We don't get things like this here!'.
"Mae'r stori yma 'di taflu golau ar rywun sy'n cymryd mantais o bobl leol, pobl hŷn a phobl bregus."
Fe gydweithiodd Meic gyda nifer o bobl i wneud y podlediad, ac mae'n falch o'r ymateb mae wedi ei gael hyd yma.
"Hwn oedd y tro cynta imi gyflwyno rhywbeth fel hyn, a'i gynhyrchu ac dwi 'di dysgu lot; gan gyd-weithio efo Marc Roberts, cerddor Catatonia a'r Cyrff, Rhys Iorwerth yn llunio cerddi ar gyfer bob pennod, a'r tîm chynyrchu, yn enwedig Tim Hinman, gŵr o Ddenmarc sy'n cyd-gyflwyno efo fi. Roedd o'n ddiddorol gweld sut oedd Tim yn symud pethau o gwmpas, creu tensiwn a chreu cliffhangers.
"Dwi'n hapus iawn fod Fiona (merch Gerald Corrigan), Sion Tecwyn, ac eraill wedi gwrando ar y podlediad a dweud ei fod yn fanwl gywir."
Er y cafodd Whall ei ddedfrydu i 31 mlynedd o garchar, mae Meic yn dweud bod un cwestiwn sydd dal angen ei ateb.
"Dydy pobl ddim yn lladd am ddim rheswm - roedd Whall yn gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd personol, ac mi roedd o i bob pwrpas yn berson poblogaidd a dymunol.
"Be' dwi'n chwilio amdano wrth wneud y podlediad 'ma ydy'r rheswm pam y digwyddodd hyn; pam 'nath y Terence Whall ladd rhywun gyda crossbow?
'Mwy i ddod o'r stori'
"Dwi'n sicr yn meddwl bod mwy i ddod o'r stori yma yn y dyfodol. Mi wneith pobl siarad yn dilyn y podlediad, a dwi'n gobeithio y daw manylion pellach i'r fei.
"Dydi pethau ddim yn cael eu datrys wedi un gyfres. Os edrychwch chi ar gyfresi Serial, neu Teacher's Pet (podlediad am lofruddiaeth yn Awstralia yn yr 1980au), dydyn nhw ddim yn cael eu datrys mewn chwe phennod. Mae'r peth yn cael ei ryddhau, mae pobl yn trafod, mae yna wybodaeth yn dod fewn... mae'n cymryd amser.
"'Nath yr heddlu ddim siarad efo fi, ac mae yna ambell i gymeriad sy'n allweddol i'r stori heb gymryd rhan chwaith, am resymau gwahanol - ond mae'r gwahoddiad dal yna iddyn nhw pan fyddan nhw'n barod i siarad.
"Mae'r gyfres drosodd ar ôl chwe phennod, ond dydy'r stori ddim drosodd o gwbl i Fiona. Mae hi dal eisiau'r rheswm pam ddigwyddodd hyn, ac ar y funud dim ond un person allwn ni ddeud sy'n gwbod pam; Terence Whall, ac mae o'n gwrthod siarad."
Hefyd o ddiddordeb: