Tywysog a Thywysoges Cymru eisiau ysgrifennydd Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Palas Kensington yn chwilio am siaradwr Cymraeg i ymuno â'r tîm sy'n gweithio i Dywysog a Thywysoges Cymru.
Mae hysbyseb wedi cael ei gyhoeddi am swydd llawn amser fel Ysgrifennydd Preifat Cynorthwyol dros Gymru a'r DU yn y palas.
Bydd y person fydd yn cael ei gyflogi i'r rôl yn gyfrifol am "arwain y gwaith cynllunio a chyflawni ar gyfer y rhan fwyaf o ymrwymiadau cyhoeddus" y tywysog a'r dywysoges.
Fe fyddan nhw'n "cyfrannu at ddatblygu strategaeth yr aelwyd... gyda ffocws arbennig ar Gymru", ac mae'r swydd hefyd yn gofyn am "ddealltwriaeth gref am gymunedau Cymreig".
Mae'r hysbyseb yn dweud fod y gallu i sgwrsio yn Gymraeg yn hanfodol, a bod Cymraeg rhugl - yn ysgrifenedig ac ar lafar - yn ddymunol.
Mae'r dyddiad cau i ymgeisio ar gyfer y swydd wedi pasio bellach.