Menyw'n cael 'hunllefau cyson' wedi ymosodiad gyda gwydr

Natalie Arthurs
Disgrifiad o’r llun,

“Dwi o hyd yn cael ôl-fflachiau a hunllefau rheolaidd," meddai Natalie Ms Arthurs

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae lluniau yn y stori isod all beri gofid.

Mae menyw o Abertawe yn dweud ei bod hi'n cael hunllefau cyson ar ôl i fenyw ddiarth ymosod arni gyda gwydr.

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd Natalie Arthurs, sy’n 36 oed, bod yr ymosodiad wedi newid ei “golwg a phersbectif ar fywyd” am byth.

Roedd y fam yn cymdeithasu gyda ffrind yn Abertawe ym mis Tachwedd 2022 pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Mae hi bellach yn cefnogi deiseb sy'n galw am weini diodydd mewn cwpanau plastig, yn hytrach na gwydrau, yn hwyr yn y nos.

‘O’n i’n gwybod yn syth mai gwydr o'dd e’

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Roedd Natalie Arthurs yn mwynhau pryd o fwyd ac ambell ddiod gyda’i ffrind, Jenna, yn Abertawe pan newidiodd ei bywyd o fewn eiliadau.

Wrth iddi ymweld â’r tŷ bach ym mar Peppermint ar Wind Street, fe wnaeth menyw arall doedd hi ddim yn ei hadnabod ymosod arni.

“O’n i yn gwybod yn syth mai gwydr oedd e oherwydd o’n i’n gallu teimlo’r oerfel miniog yn torri fy wyneb."

Wrth weld ei hwyneb yn y drych am y tro cyntaf, sylweddolodd Ms Arthurs bod ei “boch yn hongian i ffwrdd".

Mae Ms Arthurs wedyn yn cofio clywed ei ffrind “yn sgrechian” wrth i’r gwydr symud tuag at ei chorff am yr eildro.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Natalie anafiadau i'w boch, ei hysgwydd a'i brest yn yr ymosodiad

Mae Ms Arthurs yn dweud iddi sefyll mewn “golygfa arswyd” gyda charped o waed o’i chwmpas ar ôl i’r tîm diogelwch dynnu’r ymosodwr o’r ystafell a galw’r heddlu.

“O’n i’n gwybod bod pethau'n wael,” meddai, “ond o’n i ddim yn gwybod pa mor wael.”

Cafodd ei chludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe gan ei rhieni, ar ôl cael gwybod y byddai wedi gorfod aros bron i chwe awr am ambiwlans.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd

Ar ôl cael lawdriniaeth ar ei hwyneb, wnaeth bara bron i bedair awr, roedd Ms Arthurs wedi cael gweld ei merch, Skyla.

Roedd Skyla, oedd yn chwech oed ar y pryd, yn “ddagreuol ac yn ofnus” wrth weld anafiadau ei mam am y tro, ac roedd y digwyddiad hefyd wedi effeithio ar rieni Ms Arthurs.

“Er bod hyn wedi digwydd i fi, fe wnaeth pobl eraill gael eu brifo hefyd a dwi ddim yn hoffi gweld hynny."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Skyla, oedd yn chwech oed ar y pryd, yn naturiol yn “ddagreuol ac yn ofnus” wrth weld anafiadau ei mam am y tro cyntaf

‘Dwi'n cael ôl-fflachiau a hunllefau rheolaidd’

Ddechrau mis Mawrth eleni, cafodd Emily Williams, 25 oed ac o Sir Gâr, ei dedfrydu i bum mlynedd yn y carchar.

“Bob nos cyn mynd i gysgu, dwi’n meddwl am yr ymosodiad,” meddai Ms Arthurs.

“Dwi'n cael ôl-fflachiau a hunllefau rheolaidd.”

Dros y misoedd diwethaf mae Ms Arthurs yn dweud iddi orfod prosesu “nifer o emosiynau gwahanol” ond yn ddiweddar mae ganddi “agwedd wahanol”.

“Dwi’n teimlo os ydw i’n cydio yn y dicter o hyd, fi yn unig fydd yn dioddef. Byddai’n well gen i fod yn hapus a phositif a cheisio symud ymlaen gyda fy mywyd.”

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

“Dwi’n ddiolchgar fy mod i yma o hyd a fy mod i’n iawn,” medd Natalie Arthurs

Mae Ms Arthurs yn dweud ei bod hi wedi colli ei hannibyniaeth ers yr ymosodiad a dyw hi “ddim yn teimlo’n ddiogel” bellach wrth weithio fel glanhäwraig mewn “adeiladau mawr llawn pobl” dyw hi ddim yn adnabod.

Mae hi, felly, wedi gorfod gorffen ei busnes glanhau ac wedi gadael ei rôl fel milwr wrth gefn.

Er ei bod hi’n “derbyn y graith” ar ei hwyneb ac yn ffyddiog y bydd ei hiechyd meddwl yn gwella, dyw Ms Arthurs ddim yn credu y bydd hi “fyth yn teimlo’n hardd” eto.

“Dwi’n ddiolchgar fy mod i yma o hyd a fy mod i’n iawn,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Arthurs yn cefnogi deiseb gan ddioddefwr eraill i weini diodydd mewn cwpanau plastig gyda'r nos

Mae Ms Arthurs nawr yn cefnogi deiseb yn galw ar fwytai, clybiau a thafarndai i ddefnyddio cwpanau plastig yn hytrach na gwydrau yn hwyr y nos.

Y cyn-chwaraewr rygbi, Matthew Syron, ddechreuodd y ddeiseb ar ôl colli ei olwg mewn ymosodiad gwydr yn Leeds.

Mae’r tad i ddau yn dweud bod gwydr yn “arf farwol” a bod angen newid yn y dyfodol.

I Michael Kill, Prif Weithredwr Cymdeithas Diwydiannau’r Nos (Night Time Industries Association) mae “tipyn o waith” wedi ei wneud i wella diogelwch wrth weini diodydd ac asesu risg.

“Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau bod pobl yn ddiogel,” meddai, gan ychwanegu bod nifer o leoliadau eisoes yn dewis defnyddio cwpanau plastig.

“Mae 'na waith i'w wneud o hyd er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel."

Pynciau cysylltiedig