Harri Tudur... Cymro balch ddaeth yn Frenin Lloegr?
- Cyhoeddwyd
Mae'r Tuduriaid yn un o'r teuluoedd mwyaf adnabyddus erioed, ac roeddent yn teyrnasu dros Loegr o 1485 hyd 1603. Roedd gwreiddiau'r teulu wrth gwrs yma yng Nghymru.
Ond beth oedd perthynas Harri Tudur (Harri VII), y cyntaf o'r teulu i hawlio'r goron, gyda Chymru? Oedd o'n falch o'i Gymreictod a sut wnaeth o drin y Cymry?
Mewn llyfr sydd newydd gael ei gyhoeddi, Son of Prophecy: The Rise of Henry Tudor, mae'r awdur Nathen Amin yn trafod y cwestiynau hyn ac eraill.
Diffyg gwybodaeth o Harri
Felly, pam wnaeth Nathen ymrwymo 14 mlynedd o'i fywyd i sgrifennu llyfr ar y testun yma?
“Cafodd y bywgraffiadau enwog o Harri Tudur eu cyhoeddi yn 1905, 1972 a 1997, ac fe gawsant eu sgwennu gan haneswyr Seisnig a roddodd ychydig iawn o sylw i wreiddiau Harri," meddai Nathen. "Felly dwi’n teimlo bod yna fwlch wedi bod yn yr astudiaethau a’r wybodaeth gyhoeddus am Harri VII a Chymru.
“Mae’r Tuduriaid yn cael eu hystyried fel y llinach frenhinol enwocaf yn y byd – mae pawb yn gwybod am Harri VIII a’i chwe gwraig. Ond pan fydda i’n darllen llyfr am hanes Harri VIII mae ‘na ambell baragraff ar y dechrau am ei dad Cymreig a gipiodd y goron mewn brwydr, cyn symud ymlaen i faterion eraill.
“Aeth hyn dan fy nghroen i achos o’n i isie gwybod mwy am hanes y brenin Cymreig ‘ma a ddaeth o Sir Benfro, ble mae gen i gyndeidiau.”
Mae Nathen yn credu bod Harri Tudur yn cael ei anwybyddu i raddau am ei fod yng nghysgod dau frenin arall, a oedd yn teyrnasu cynt ac ar ei ôl.
“Rwy’n meddwl bod Harri VII yn llithro rhwng y craciau am sawl rheswm. Gynta’ oll, mae’n syrthio rhwng Richard III a Harri VIII - y ddau Frenin Lloegr enwocaf erioed, mae'n siŵr. Yn ail, ‘nath William Shakespeare erioed sgwennu drama am Harri VII, ond fe wnaeth am Harri V, Richard III a Harri VIII – roedd y dramâu hyn yn bellgyrhaeddol ac yn bwysig fel rhan o hanes y dynion yma.
“Ond y pwynt pwysig ydy fod pobl ddim yn gwybod ble i osod Harri VII. Yn Lloegr roedd haneswyr Oes Fictoria wastad yn diystyru ac anwybyddu ei Gymreictod. Gallwn ddyfalu pam – oedd 'na rhyw gonsensws ymysg haneswyr upper class oedd yn bwrpasol yn bychanu campau Harri VII a’i gysylltiadau Cymreig?
“Roedd 'na dueddiad i edrych lawr ar y Cymry a doedd yr haneswyr 'ma nhw ddim eisiau cydnabod bod un o frenhinoedd enwocaf a mwyaf dylanwadol Lloegr (Harri VIII) yn hanner Cymro.
“Yng Nghymru roedd ‘na dueddiad gan haneswyr di-Gymraeg i drio bychanu Harri VII gan iddo fynd yn ei flaen i fod yn Frenin Lloegr. Mae fel bod y drefn y ffordd arall yma, ble roedd yna dueddiad i wrthod Harri VII a gwadu ei Gymreictod.”
Roedd Harri’n dod o un o deuluoedd pwysicaf Cymru, yn dechrau gydag Ednyfed Fychan yn 1170, a wasanaethodd wrth ochr Llywelyn Fawr. Roedd yn cael ei ‘nabod gan un bardd fel The Terror of England.
Trwy wraig Ednyfed, Gwenllïan, merch yr Arglwydd Rhys, gallai’r Tuduriaid olrhain eu cyndeidiau yn ôl i Hywel Dda, Rhodri Mawr, Rhys ap Tewdwr - holl dywysogion enwog Cymru yn y canol oesoedd cynnar. Honnodd Harri hefyd ei fod yn ddisgynnydd i Frenin y Brythoniaid, Cadwaladr.
Cymru v Lloegr ar Faes Bosworth
“Mae’n rhaid cofio bod dylanwad teulu’r Tuduriaid yn mynd nôl dros y canrifoedd, yn gwrthryfela yn erbyn y goron Seisnig. Roedd ‘na rhyw streak gwrthryfelgar yn y teulu yma, ac maen eitha’ eironig fod un ohonynt wedi dod yn frenin ei hun yn y diwedd.
“Un o’r pethau cyntaf a wnaeth Harri wedi iddo ddod yn frenin oedd anfon comisiwn i Gymru i ymchwilio i’w hanes deuluol ac i sgwennu adroddiad – dyma'n rhannol pam ry’n ni’n gwybod gymaint am ei deulu heddiw.”
Cyn Brwydr Maes Bosworth fe wnaeth Richard ymdrech bwrpasol i danseilio hawl Harri i goron Lloegr, meddai Nathen.
“Roedd Richard III yn sarhau Harri am ei fod yn Gymro, a chyn Brwydr Maes Bosworth, yn lle ei alw’n Harri Iarll Richmond (y teitl y bydda fe eisiau cael ei ddefnyddio), roedd Richard yn ei alw’n Henry Tidder, sydd digwydd bod yn ddigon agos i’r ffordd gywir i ddweud ei enw.
“Roedd e’n galw Harri’n Welsh Milksop, a dywedodd ei fod yn 'unknown Welshman, whose father I never knew'. Fe wnaeth Richard apelio i bob ‘good and true Englishmen’ i amddiffyn y goron – felly roedd o’n ymgais bwrpasol i lunio’r frwydr fel Cymru yn erbyn Lloegr.
“Ond wrth gwrs fe aeth Harri drwy Gymru i godi byddin ac mae’n llwyr bosib mai Cymro (Rhys ap Thomas) saethodd y saeth a laddodd Richard III. Fe amgylchynodd Harri ei hun ym Mrwydr Maes Bosworth gyda milwyr elît o Gymru, ac roedden nhw’n agos iawn i Harri ar ddiwedd y frwydr pan gafodd Richard ei ladd. Fe sgwennodd beirdd o Gymru yn dilyn y frwydr am sut y gwnaeth Gymro ladd Brenin Lloegr, felly mae’n llwyr bosib.”
Harri'n siarad Cymraeg?
Felly, yw hi'n deg cymryd yn ganiataol bod Harri'n siaradwr Cymraeg fel ei gyndeidiau?
“Mae rhaid dweud does ddim tystiolaeth ei fod yn siaradwr Cymraeg," medd Nathen.
“Ond eto, os rowch chi e yng nghyd-destun yr oes a meddwl am ei fagwraeth; cafodd ei eni yn Sir Benfro a'i fagu nes oedd yn 14 yng Nghastell Rhaglan. Castell Rhaglan ar y pryd oedd y ganolfan bwysicaf ar gyfer yr iaith Gymraeg a’r celfyddydau. Roedd e’n dod o deulu o Gymry balch, a phan ddaeth yn Frenin Lloegr fe amgylchynodd ei hun gyda Chymry.
“Bydda gan unrhyw blentyn sy’n cael ei fagu yng Nghymru adeg hynny rywfaint o Gymraeg, ac rwyf o hyd yn jocian y byddai gan Harri VII o leiaf TGAU Cymraeg ail iaith, o’r ffaith iddo gael ei eni a magu mewn gwlad uniaith Gymraeg ac roedd ei nyrs gyntaf yn Gymraes.
“Rhaid cofio ei fod yn ieithydd, ac yn ôl y sôn erbyn iddo ddod yn frenin roedd yn fwy cyfforddus yn siarad Ffrangeg nac yr oedd yn defnyddio Saesneg. Roedd yn siarad Lladin hefyd, ac felly dydy’r syniad nad oedd yn siarad Cymraeg ddim yn gredadwy o gwbl yn fy marn i.”
Y Ddraig Goch
Mae 'na atgof glir heddiw o'r cysylltiad rhwng Harri Tudur a Chymru, medd Nathen.
“Dwi’n meddwl roedd gan Harri falchder mawr yn ei Gymreictod ac yn ei linach, ac ry’n ni’n gweld hyn drwy edrych ar yr hyn maen ei wneud pan y daw’n frenin.
"Gallwn weld hyn yn y faner mae’n ei greu; rhoi draig goch Cadwaladr, Brenin Prydain yn y seithfed ganrif a hawliodd fel un o’i gyndadau, a’i roi ar gefndir gwyrdd a gwyn, sef lliwiau’r Tuduriaid. Mae’n cyfuno symbol ei gyndeidiau gyda lliwiau ei deulu ef ei hun. Wrth gwrs mae hyn yn dod yn sail i’r faner genedlaethol ry’n ni’n ei ‘nabod heddiw.
“Os ofynnwch chi i lot o Gymry, maen nhw’n meddwl mai cae yw’r gwyrdd ar faner Cymru, ond nid cae yw e – gwyrdd a gwyn oedd lliwiau’r Tuduriaid. Mae’n eitha’ digri achos mae 'na dipyn o genedlaetholwyr sy’n casáu’r Tuduriaid, ond eto’n ymfalchïo yn ein baner genedlaethol, heb ddeall yr hanes.
“Mae gan bob Brenin Lloegr eu harwydd neu symbol personol; roedd gan Richard III faedd gwyn er enghraifft. Ond pan mae Harri Tudur yn dod yn frenin mae’n dewis y ddraig goch fel ei arwydd bersonol, ac mae’n ei blastro ymhobman dros ei deyrnas. Hyd heddiw, os ewch chi i Abaty Westminster, i King’s College Caergrawnt, neu i Gadeirlan Caergaint, mae’r ddraig goch i’w gweld ymhobman.”
“Mae ‘na ddiffyg gwybodaeth ar lefel sylfaenol yma, yn enwedig mewn cylchoedd Saesneg, ynglŷn â phwy a beth oedd y Tuduriaid. O fewn cylchoedd iaith Gymraeg, yn enwedig yng ngogledd Cymru, dwi’n ffeindio bod pobl lot fwy gwybodus ynglŷn â’r Tuduriaid. Roedd y Tuduriaid yn gefndryd cyntaf i Owain Glyndŵr, ac roedden nhw’n gefnogol i’r ymgyrch yn y rhyfel dros annibyniaeth.
“Pan gafodd Harri VII ei blentyn cyntaf mae’n ei alw’n Arthur, mewn cyfnod ble roedd bron pob Brenin Lloegr yn Henry, Richard neu Edward. Mae’n dewis Arthur oherwydd y cysylltiad â hen Frenin y Brythoniaid.
"Sant personol Harri VII, a oedd yn ffyddlon iawn iddo, oedd Arthfael (Armel) – sant o Gymru yn y chweched ganrif a aeth i fyw yn Llydaw. Dwi’n ei meddwl bod hi’n arwyddocaol bod Harri wedi dewis Cymro fel sant personol.
“Yn y cyfnod yma roedd y Cymry’n ddinasyddion eilradd yn eu gwlad eu hunain yn sgil y Deddfau Penyd a ddaeth wedi gwrthryfel Glyndŵr. Ond pan ddaeth yn frenin, fe oedd y Brenin Lloegr cyntaf i roi arian a phŵer i Gymry nodedig; y ddau bwysicaf o'r rhain oedd Rhys ap Thomas a William Griffith, a wnaethpwyd yn uwch-swyddogion yn rheoli rhannau helaeth o Gymru.
“Rydyn yn gweld o lyfrau taliadau Harri sydd dal ar gael, ei fod wedi gwneud taliadau bob Dydd Gŵyl Dewi, yn talu telynorion Cymreig, a'i fod yn prynu caws a chig o Gymru yn rheolaidd.
“Dwi’n edrych ar y dystiolaeth 'ma i gyd a meddwl mai dyma rywun cafodd ei eni a magu yng Nghymru, a pryd mae’n dod yn frenin a chael arian mawr, mae’n edrych nôl at ei blentyndod a’r hyn oedd yn hoffi o’i blentyndod – pethau fel y cig a’r caws, a’r gerddoriaeth telyn.”
Harri VIII a'r Deddfau Uno
A wnaeth Harri Tudur basio rhywfaint o'i falchder Cymreig i'w fab, Harri VIII?
“Dwi ddim yn meddwl fod Harri VIII yn poeni o gwbl am Gymru, roedd e’n ddyn ac yn frenin hynod o hunanol.
“Daeth y Deddfau Uno, neu’r Deddfau Cyfreithiau yng Nghymru i roi eu henw cywir, i fodolaeth oherwydd Thomas Cromwell, a oedd yn un o’r gweinyddwyr mwyaf effeithiol erioed. Falle fod y deddfau’n ffordd iddyn nhw uno’r deyrnas, ond eto’n ffordd o ddatrys y riddle 'ma - beth i'w wneud â Chymru wedi 300 mlynedd.
“Felly, dwi’n meddwl mai Cromwell oedd yn gyfrifol am y deddfau, a bu farw'r syniad o Frenin Cymreig a oedd yn poeni am fuddiannau'r Cymry, gyda Harri VII.”
Mae Nathen yn dadlau y dylai'r Cymry efallai ailfeddwl sut rydym yn gwerthuso pwrpas a dylanwad y Deddfau Uno.
“Mae’r syniad 'ma fod y Deddfau Uno’n weithred o ormes dros Gymru’n rhywbeth modern i ddweud gwir. Yn ystod y 16eg ganrif roedd llawer o gefnogaeth am hyn, achos doedden ni ddim yn cael ein trin yn gyfartal i’r Saeson.
"Na, ‘nath y Deddfau Uno ddim rhoi'r hunanreolaeth i ni y mae llawer eisiau heddiw, ond fe gafon ni hawliau fel cynrychiolaeth yn y senedd fel yr oedd y Saeson yn ei gael, ac fe ganiataodd hynny i rai teuluoedd yng Nghymru wneud arian mawr. Oedd fe roedd o fewn y system Seisnig, ond doedden nhw ddim yn poeni am hynny ar y pryd, roedden nhw jest isio cael bywydau gwell.
“Dwi’n meddwl ei fod yn bwysig iawn i nodi mai Cymru yw’r unig ran o’r holl deyrnas wnaeth ddim gwrthryfela yn erbyn y Tuduriaid. Fe wnaeth pob rhan o Loegr wneud ar ryw bwynt, ond dim Cymru achos mi roedd ‘na rhyw deimlad bod pwy bynnag oedd yn arwain y Tuduriaid yn ‘un ohonom ni’.”
Cymhariaeth â David Lloyd George
Cymro arall a oedd yn un o ffigyrau mwyaf pwerus ei oes oedd David Lloyd George, Aelod Seneddol Sir Gaernarfon a aeth ymlaen i fod yn Brif Weinidog Prydain, ac mae Nathen yn dwyn cymhariaeth rhyngddo â Harri VII.
“Mae Lloyd George yn rhywun arall sydd yn cael ei ystyried gan rai fel Cymro 'nath ddim gwneud rhyw lawer dros Gymru, ond wrth edrych fewn i’r cwestiwn yn ddyfnach efallai bod hynny ddim yn gywir.
“Mae llawer heddiw’n edrych ar y ddau ddyn yma, Harri VII a David Lloyd George, ac yn disgwyl y bydden nhw wedi gwneud mwy dros Gymru. Ond roedden nhw’n delio gyda sefyllfaoedd gwleidyddol ble nid beth oeddent eisiau ei gyflawni y dylem ystyried, ond beth oedd yn realistig iddyn nhw ei gyflawni.”
“Bydde David Lloyd George ddim wedi gallu rhoi annibyniaeth i Gymru yn 1916 tra roedd ‘na Ryfel Byd yn mynd mlaen. Roedd yr un peth yn wir am Harri VII; pan wnaeth e lanio i herio Richard III am y goron fe laniodd yng Nghymru, fe gododd fyddin yng Nghymru, fe ymosododd ar Loegr o Gymru a lladd y brenin. Y peth olaf oedd e am wneud unwaith oedd e’n frenin Lloegr oedd rhoi annibyniaeth i Gymru, mae hynny jest yn hollol afrealistig. Yn lle, ei fwriad e oedd gwella bywydau'r Cymry ac i fod y brenin cyntaf o Loegr i roi hawliau i ni.
“Mae’n rhaid ni fod yn ofalus i beidio trio rhoi ein gwerthoedd a chredoau gwleidyddol ni heddiw ar y dynion yma, a oedd yn byw mewn amseroedd gwahanol ac a oedd â heriau gwahanol.”
Y Mab Darogan?
“Pan oedd Harri VII yn cael ei fagu gyda'r bwriad i ryw ddydd gipio’r goron, roedd yn cael ei gyfeirio ato fel Y Mab Darogan gan feirdd Cymru. Mae’r teitl yna’n bwysig i genedlaetholwyr yn hanesyddol wrth gwrs, gan gyfeirio at y ffigwr fyddai’n codi i ryddhau'r genedl. Ymysg eraill i gael eu galw’n 'Fab Daroganf oedd Llewelyn Fawr, Owain Lawgoch ac Owain Glyndŵr.
“Ond wrth gwrs 'nathon nhw gyd fethu yn y pen draw wrth geisio am ryddid. Roedd y beirdd yn dathlu pan ddaeth Harri VII yn frenin, ac mae’n bwysig iawn nodi ar ôl iddo ddod yn frenin doedd dim mwy o siarad am Y Mab Darogan achos roedd y Meseia wedi cyrraedd.”
Boed Harri Tudur yn Fab Darogan neu beidio, mae'n sicr fod ganddo le mewn hanes fel un o'r Cymry mwyaf arwyddocaol erioed.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Awst 2017
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018