Gwrthdaro chwyrn rhwng y pleidiau ar fewnfudo
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth trafodaeth ar fewnfudo arwain at wrthdaro chwyrn mewn dadl rhwng gwleidyddion blaenllaw sy’n cynrychioli’r prif bleidiau ledled Prydain ar BBC1 nos Wener.
Y saith plaid wnaeth gymryd rhan yn y ddadl deledu fyw o Lundain oedd y Ceidwadwyr, Y Blaid Werdd, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru, Reform UK a'r SNP.
Wrth agor y ddadl ar fewnfudo, dywedodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage, fod yr holl bleidiau eraill yn meddwl bod cwestiynu mudo yn “rhywbeth anghywir”.
Dywedodd fod mewnfudo wedi creu “argyfwng poblogaeth” oedd yn gwneud pobl yn dlotach ac yn lleihau ansawdd bywydau pobl ac mai “etholiad mewnfudo” ddylai hwn fod.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod rhaid newid naws y ddadl ar fewnfudo.
Dywedodd fod "gormod ohono wedi'i fframio o amgylch rhagfarn (bigotry) pobl fel Nigel Farage".
Dywedodd y byddai Plaid Cymru yn “sefyll lan yn erbyn Nigel Farage” gan ychwanegu bod “angen mewnfudo ar gyfer y system iechyd, y system ofal a’r economi”.
Gan herio honiad o ragfarn, atebodd Mr Farage: "Agorwch y drysau! Gadewch i bawb ddod! Budd-daliadau i bawb!".
Ar ran yr SNP, dywedodd Stephen Flynn fod mudo yn “hollol hanfodol” ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a’r economi.
Dywedodd fod angen i ni “roi diwedd ar y pardduo” wrth drafod ymfudo.
“Nid yw’r ras hon i’r gwaelod ar ymfudo, a yrrwyd gan Nigel Farage, ac a ddilynir gan y blaid Geidwadol a’r blaid Lafur yn gwasanaethu buddiannau’r Alban”.
I’r Ceidwadwyr, dywedodd Penny Mordaunt fod lefelau mewnfudo yn rhy uchel, gan ychwanegu y byddai ei phlaid yn gosod “cap blynyddol” ar niferoedd.
“Beth fydd hynny’n ei wneud yw cymryd i ystyriaeth anghenion economaidd y gweithlu ond hefyd y pwysau mae mewnfudo yn ei roi ar gymunedau ”.
Ychwanegodd mai’r senedd fyddai’n pennu niferoedd.
Dywedodd Angela Rayner o’r Blaid Lafur nad oedd problemau gyda thai, ffyrdd ac iechyd yn ddim i’w wneud â mewnfudo ond yn ymwneud â’r “dinistr y mae’r Torïaid wedi’i wneud i’n gwasanaethau cyhoeddus”.
Dywedodd y byddai Llafur yn cael gwared ar gynllun Rwanda y llywodraeth Geidwadol ac yn rhoi’r arian i helpu diogelu ffiniau.
Dywedodd y byddai hyn “yn chwalu’r gangiau” sy’n cludo pobl i mewn i’r DU.
Dywedodd y Democrat Rhyddfrydol, Daisy Cooper, fod y Ceidwadwyr wedi gwneud “llanast llwyr o’r system fudo ond hefyd o’r system loches”.
Dywedodd: “Mae gennym ni’r gwaethaf o’r ddau fyd, mae gennym ni bobl sy’n anobeithiol ac yn ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth yn cyrraedd ar gychod bach ac ar yr un pryd mae gennym ni ein Gwasanaeth Iechyd, gofal cymdeithasol, lletygarwch a pheirianneg sy' ddim yn gallu recriwtio’r staff i roi hwb i’n heconomi”.
Ar ran y Gwyrddion, dywedodd Carla Denyer: “Petaech chi’n cwrdd ag ymfudwr yn y Gwasanaeth Iechyd, maen nhw’n fwy tebygol o fod yn eich trin chi na bod o’ch blaen chi yn y ciw”.
Dywedodd fod ymfudwyr wedi bod yn “beth da” i’r DU – nid oedd y Gwyrddion eisiau “capiau” ar fudo, roedden nhw eisiau system a oedd yn “decach ac yn fwy trugarog”.
Bydd yr Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
- Cyhoeddwyd7 Mehefin