Problemau technegol yn tarfu ar wasanaethau

meddygfa teuluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyw rhai meddygfeydd ddim yn gallu gweithredu fel arfer yn sgil y problemau technegol

  • Cyhoeddwyd

Mae problemau technegol byd-eang wedi cael effaith sylweddol ar systemau nifer o feysydd awyr, darlledwyr, a meddygfeydd fore dydd Gwener.

Dywedodd cwmni Microsoft eu bod yn parhau i fynd i’r afael ag “effaith barhaus” y problemau ar eu gwasanaethau.

Nid yw union achos y broblem yn hysbys, er bod sawl cwmni wedi beio'r nam ar feddalwedd seiberddiogelwch Crowdstrike sy'n effeithio ar gyfrifiaduron Windows.

Dywedodd cwmni trenau Trafnidiaeth Cymru bod y problemau technegol wedi effeithio arnyn nhw ond ar hyn o bryd maen nhw'n dweud bod “y gwasanaethau'n rhedeg fel arfer ond efallai y bydd newidiadau byr rybudd".

Y cyngor i gwsmeriaid yw gwirio y wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.

Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd un feddygfa yn Llanrhymni, Caerdydd: “Ar hyn o bryd ni allwn gael mynediad i’n system glinigol.

"Rydym yn gweithredu gwasanaeth cyfyngedig nes ein bod ni’n gwybod mwy. Ffoniwch dim ond os yw’n argyfwng; gallwch ddefnyddio wasanaeth111 neu fynd i fferyllfeydd lleol.”

Dywedodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), sy’n gyfrifol am systemau digidol GIG Cymru, fod “gwasanaethau hanfodol” yn “gweithredu fel arfer.”

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: “Rydym yn ymwybodol o rywfaint o effaith ar wasanaethau digidol lleol ledled Cymru ac ar rai defnyddwyr ap GIG Cymru.

"Mae DHCW, byrddau iechyd, a’n timau cyflenwyr digidol yn gweithio’n galed i ddatrys y problemau ac yn rhoi blaenoriaeth iddyn nhw.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyw hi ddim yn ymddangos fod trafferthion ym maes awyr Caerdydd ar hyn o bryd, ond mae yna gyngor i gwsmeriaid wirio y wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio

Dyw hi ddim yn ymddangos fod trafferthion ym maes awyr Caerdydd ar hyn o bryd ond mae cwsmeriaid TUI yn dweud bod yna broblemau gyda gwirio bagiau.

Mae tair hediad TUI fod i adael maes awyr Caerdydd yn ddiweddarach heddiw.

Rhybuddiodd cwmni hedfan Ryanair am “amhariadau posib ar draws y rhwydwaith” yn sgil y problemau technegol.

Nid oes unrhyw gyngor yng Nghymru wedi adrodd am broblemau mawr neu amhariad ar eu systemau technegol.

Nid oedd teledu Sky News yn gallu darlledu yn fyw oherwydd y problemau.

Mae cwmni trenau mwyaf Prydain hefyd wedi rhybuddio teithwyr i ddisgwyl oedi ar y rhwydwaith. Cyhoeddodd Govia Thameslink Railway (GTR), sy’n rheoli cwmnïau Southern, Thameslink, Gatwick Express, a Great Northern, rybudd ar eu cyfrifon cymdeithasol.

Dywedodd y cwmni: “Rydym ar hyn o bryd yn profi problemau technegol eang ar draws ein rhwydwaith cyfan. Mae ein timau arbenigol wrthi’n ymchwilio i ganfod achos y broblem."

Pynciau cysylltiedig