Bangor: Miloedd yn gorymdeithio dros Gymru annibynnol
Disgrifiad o’r llun, Daeth miloedd ynghyd i orymdeithio brynhawn Sadwrn ym Mangor
1 o 5
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd wedi gorymdeithio drwy strydoedd Bangor i gefnogi Cymru annibynnol.
Dyma’r digwyddiad diweddaraf i gael ei drefnu gan Yes Cymru ac All Under One Banner (AUOB).
Daeth miloedd hefyd ynghyd yng ngorymdaith debyg yn Abertawe fis Mai.
Yn ôl y trefnwyr mae’r niferoedd uchel sy’n mynychu yn dangos bod y galw am Gymru annibynnol yn cynyddu.
- Cyhoeddwyd20 Mai 2023
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd7 Medi 2022
Geraint Thomas ydy un o gyfarwyddwyr Yes Cymru ac un o drefnwyr yr orymdaith ym Mangor.
Dywedodd eu bod wedi disgwyl i rhwng tua 6,000 a 8,000 o bobl fynychu.
Ers hynny mae'r mudiadau wedi dweud y gwnaeth dros 10,000 ymuno.

Geraint Thomas oedd un o drefnwyr y digwyddiad ddydd Sadwrn
“Mae gweld cymaint o bobl yma ym Mangor yn wych," dywedodd.
"Mae’n dangos pŵer y neges a’r cynnydd aruthrol yn y gefnogaeth i annibyniaeth sydd yn digwydd ar hyn o bryd.
“Ein nod ni yma heddiw yw lledaenu’r neges ymhellach ac i geisio dangos i bobl beth sy’n bosib i ni fel cenedl.”

"Mae'n gyfle i rannu ein neges ni i’r ardal yma ac i weddill y wlad" - Llio Roberts
Ymhlith y miloedd a fynychodd yr orymdaith oedd Llio Roberts.
“Dwi’n meddwl bod hi’n hynod o bwysig ein bod ni yma heddiw.
"Mae’n cyfle i rannu ein neges ni i’r ardal yma ac i weddill y wlad, meddai.”
'Lledaenu neges'
Mae Ioan Bryn yn dod o Fangor, ac yn falch i weld gorymdaith o’r fath yn dod i’w ddinas enedigol.
Dywedodd: “Mae’n wych i gael hwn ym Mangor heddiw, dyma fy nghartref i.
"Mae’n grêt gweld ffrindiau a theulu a gallu lledaenu’r neges i bobl sydd falle' heb glywed am Gymru annibynnol a beth gallai hynny feddwl."

Mae "cadw momentwm" mewn sawl rhan o Gymru yn bwysig, dywedodd Angharad Gwyn
Mae Angharad Gwyn o Gaernarfon wedi mynychu sawl gorymdaith debyg o’r blaen.
“Handi iawn cael yr orymdaith yma ym Mangor achos dw i’n byw ochrau Caernarfon," dywedodd.
"Mae’n braf bod y digwyddiadau yma yn symud rownd y wlad ac yn dod i lefydd fel Bangor.
"Dwi wedi bod i orymdeithiau tebyg yng Nghaerdydd a llefydd eraill o’r blaen ac mae’n bwysig parhau i gynnal nhw i gadw’r momentwm."