YesCymru 'wedi tyfu'n rhy gyflym' yn ystod y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywed Gwern Gwynfil na wnaeth YesCymru "esblygu a datblygu i gadw lan gyda'r twf aruthrol" mewn aelodaeth

Mae prif weithredwr newydd YesCymru wedi dweud bod y mudiad dros annibyniaeth wedi "tyfu'n rhy gyflym" yn 2020, a bod hynny'n gyfrifol am rai o'r problemau a welwyd yn yr ymgyrch ers hynny.

Bu twf sylweddol yn aelodaeth y grŵp yn ystod cyfnod clo cyntaf y pandemig, gan gyrraedd 18,000 ar un pwynt, ond fe ddisgynnodd i lai na hanner hynny yn dilyn trafferthion gweinyddol a ffraeo mewnol.

Ond dywedodd Gwern Gwynfil bod honno'n "wers sydd wedi cael ei dysgu", ac y byddai'r mudiad nawr yn canolbwyntio ar "greu fforwm i bobl drafod posibiliadau annibyniaeth".

Awgrymodd hefyd ei bod hi'n well ymgyrchu dros annibyniaeth drwy grwpiau trawsbleidiol fel YesCymru, gan ddweud bod "gwendid" yn ymgyrch annibyniaeth Yr Alban oherwydd ei fod rhy ynghlwm â phlaid yr SNP.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Gwern Gwynfil yn rheolwr gyfarwyddwr ar fusnes teuluol Rhiannon Cyf yn Nhregaron am 18 mlynedd cyn cael y swydd

'Angen proffesiynoli'

Cafodd YesCymru ei lansio fel mudiad yn 2016, ac ers hynny maen nhw wedi cynnal sawl rali ar draws y wlad yn galw am annibyniaeth i Gymru.

Fe dyfodd aelodaeth y mudiad yn sylweddol ar un cyfnod, a hynny'n adlewyrchu newid yn yr arolygon barn wrth i gefnogaeth dros annibyniaeth hefyd gynyddu rywfaint.

Ond erbyn 2021 roedd anghydfod mewnol am bolisïau a chyfeiriad y grŵp, ac fe gamodd y cadeirydd Siôn Jobbins o'r neilltu, yn rhannol oherwydd "pwysau'r rôl".

Parhau wnaeth y cecru mewnol fodd bynnag, gyda phleidlais o ddiffyg hyder yn y pwyllgor canolog, ac er i YesCymru sefydlu strwythur a chyfansoddiad newydd ddiwedd y llynedd fe wnaeth rhai cyn-aelodau fynegi pryder fod y "mudiad wedi cael ei rwygo".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd sawl rali ei chynnal gan YesCymru ers 2019, gan gynnwys un yng Nghaernarfon

"Naeth YesCymru mewn ffordd dyfu'n rhy gyflym yn ystod y cyfnod clo, a phethau wedi mynd ar ras heb fod y mudiad wedi medru esblygu a datblygu i gadw lan gyda'r twf aruthrol yna," meddai Gwern Gwynfil, 48.

"Mae'n rhaid i ni adennill y momentwm, mae hynny'n sicr yn wir. Mae wedi bod yn flwyddyn o drawsnewid i YesCymru, cymryd yr hen drefn a'i adnewyddu'n llwyr... a phroffesiynoli'r mudiad er mwyn ei symud ymlaen ym mhob ffordd.

"Fi'n meddwl bod YesCymru yn ei ffurf cynt wedi dysgu gwersi anodd ynglŷn ag ochr negyddol y cyfryngau cymdeithasol, ond mae honna'n wers sydd wedi cael ei dysgu, a byddwn ni ddim yn mynd lawr y trywydd yna eto."

Trafod - nid cyflwyno polisïau

Gydag arolygon barn yn awgrymu mai dim ond tua traean o bobl Cymru sydd o blaid annibyniaeth, dywedodd Mr Gwynfil fod cynyddu'r aelodaeth unwaith eto'n un o'i brif flaenoriaethau.

Awgrymodd hefyd y byddai'r mudiad yn edrych ar ffyrdd eraill o ledaenu ei neges y tu hwnt i gynnal ralïau a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys comisiynu ymchwil i Gymru annibynnol.

"Dyw e ddim just yn ddigon i apelio i'r galon. Mae'n rhaid apelio i'r meddwl, apelio i arweinyddiaeth y wlad ar bob lefel," meddai.

"Rwy ddim yn disgwyl i bawb gytuno gydag annibyniaeth, a pherswadio 100% o boblogaeth Cymru i gytuno. Ond fe hoffwn i bod pawb yng Nghymru yn trafod annibyniaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Siôn Jobbins yn un o sylfaenwyr y mudiad, cyn camu lawr fel cadeirydd llynedd

"Dyw blaenoriaethau San Steffan byth yn mynd i fod yn gytûn â blaenoriaethau Cymru, a dyw blaenoriaethau Cymru byth yn mynd i fod ar y brig pan mae trafodaethau'n digwydd yn San Steffan, 'dyn ni ddim yn ddigon pwysig."

Ond mynnodd nad lle'r mudiad oedd i ddweud wrth bobl sut y byddai Cymru annibynnol yn edrych - dim ond ymgyrchu dros egwyddor y peth.

"Mae pobl yn gallu edrych ar natur y Senedd a gweld pa fath o lywodraeth fyddai'n debygol o ymddangos," meddai.

"Ond dyw e ddim i YesCymru ddweud 'dyma'r polisïau fydd ar ddiwrnod un o Gymru annibynnol'."

Parcio daliadau personol

Awgrymodd felly ei bod hi'n well i'r mudiad fod yn "ymgyrch ymbarél" oedd yn croesawu pawb - "asgell dde, asgell chwith, pob plaid" - yn hytrach na ymgyrchu dros annibyniaeth drwy blaid wleidyddol, fel mae Plaid Cymru yn ei wneud er enghraifft.

"Os ni'n edrych ar enghraifft Yr Alban, bron bod e'n wendid i'r Alban eu bod nhw wedi clymu i un blaid wleidyddol, achos mae hanes a dyfodol yr ymgyrch annibyniaeth yn Yr Alban yn mynd i fod ynghlwm [â'r SNP]," meddai.

"Os yw'r blaid wleidyddol honno yn colli gafael ar rym, neu'n methu mewn ffyrdd eraill, mae hynny'n mynd i effeithio ar y ddadl annibyniaeth yn Yr Alban."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefnogaeth i annibyniaeth yn Yr Alban yn llawer uwch nag yng Nghymru - ond yn ôl Gwern Gwynfil, "gwendid" yw dibynnu'n ormodol ar un blaid wleidyddol i'w wireddu

Mae Gwern Gwynfil ei hun wedi mynegi daliadau gwrth-Geidwadol a gwrth-Brexit ar y cyfryngau cymdeithasol yn y gorffennol, ac fel tad i bump o blant, mae'n dweud bod tlodi plant yn un o'r pynciau sy'n ei "gythruddo" fwyaf.

Ond mynnodd fod ei ddaliadau gwleidyddol personol "ddim yn berthnasol yn fy rôl bresennol", gan mai annibyniaeth oedd unig nod YesCymru.

Ydy'r mudiad ddim yn mynegi safbwynt ar unrhyw fater arall felly - ddim hyd yn oed egwyddorion mwy sylfaenol fel bod yn wrth-hiliaeth, neu o blaid hawliau pobl LHDT+?

"Mae'r egwyddorion sylfaenol 'na yna, maen nhw yn yr articles, ac maen nhw'n sail i'r ymgyrch," atebodd Mr Gwynfil.

"Ma' fe i gymdeithas i ddewis pa fath o gymdeithas mae'n mynd i fod, ac mae 'da ni'r gymdeithas 'na, 'dyn ni ddim yn meddwl bod Cymru annibynnol yn sydyn yn mynd i newid ni mewn i Gymru hollol wahanol."

Pynciau cysylltiedig