Y gwyddonwyr ym Mangor allai helpu i bweru gorsaf leuad
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonwyr yng Nghymru gam yn nes at helpu i ddarparu pŵer ar gyfer gorsaf bosib ar y lleuad.
Ym Mhrifysgol Bangor maen nhw wedi datblygu tanwydd niwclear maen nhw'n credu allai gynnal bywyd yn y gofod am gyfnodau hir.
Gobaith Prosiect Artemis, sy'n cael ei arwain gan NASA, yw cael safle ar y lleuad erbyn tua 2030.
Y gred yw y gallai'r adweithyddion niwclear meicro hefyd gael eu defnyddio ar y ddaear - er enghraifft, mewn lleoliadau sydd heb drydan yn dilyn argyfwng.
'Her, ond un hwyl'
Gobaith gwyddonwyr yw bod llawer o adnoddau gwerthfawr ar gyfer technoleg fodern i'w canfod ar y lleuad, a'i fod hefyd yn lleoliad all gael ei ddefnyddio i deithio i blanedau eraill.
Wrth i dechnoleg y gofod gael ei datblygu ymhellach, mae'r BBC wedi cael cip ar waith y Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mhrifysgol Bangor, sy'n arwain y ffordd yn fyd eang ar danwydd.
Maen nhw'n gweithio gyda phartneriaid fel Rolls Royce, Asiantaeth Ofod y DU, NASA a Labordy Cenedlaethol Los Alamos yn yr Unol Daleithiau.
Dywedodd yr Athro Simon Middleburgh o'r sefydliad y byddan nhw'n debygol o allu profi'r tanwydd niwclear "yn y misoedd nesaf".
Oherwydd y diffyg golau haul a'r tymheredd isel ar y lleuad, mae'r brifysgol yn rhan o'r ymdrechion i ddod o hyd i ffyrdd eraill o greu'r ynni a gwres sydd ei angen i gynnal bywyd yno.
Maen nhw bellach wedi cynhyrchu cell fach maint hadyn - Trisofuel - y mae gwyddonwyr yn credu allai gael ei ddefnyddio i bweru generadur niwclear bychan, tua maint car.
Byddai'n rhywbeth "y gallech chi roi ar roced", meddai'r Athro Middleburgh, a bydd nawr yn cael ei brofi i weld a yw'n medru gwrthsefyll grymoedd yn y gofod.
"Rydyn ni'n sôn am 2030," meddai. "Mae'n mynd i fod yn her, ond yn un hwyl.
"Fe ddechreuon ni'n fach - edrych ar opsiynau gwahanol ar gyfer tanwydd niwclear i'r orsaf ofod yma.
"Nawr 'dyn ni'n trio gweithio allan beth i'w wneud gydag o nesaf fel ei fod o'n gweithio'n saff."
'Cymru ar y map'
Pan lwyddodd India i lanio cerbyd ar begwn deheuol y lleuad am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf, roedd y cyffro i'w deimlo ym Mangor hefyd.
"Roeddwn i wrth fy modd... mae 'na lawer o ddŵr yno o bosib er mwyn cynnal bywyd," meddai'r Athro Middleburgh.
"Bydd o'n her fawr i gael pobl allan yna fel rhan o brosiect Artemis, ond un y medrwn ni ei wynebu."
Mae'n dweud y byddai'r tanwydd niwclear maen nhw'n ei ddatblygu yn helpu i sicrhau cyflenwad dŵr i'r orsaf, yn ogystal â datblygu hydrogen ar gyfer tanwydd.
Byddai angen hynny, meddai, os oedd pobl am ddefnyddio'r lleuad fel safle ar gyfer lansio rhagor o deithiau i lefydd eraill yn y gofod.
"Heb ynni fydden ni ddim yn medru gwneud unrhyw beth unwaith 'dyn ni'n cyrraedd yno," meddai.
"I gael pobl yn goroesi yno a byw bywydau cymharol normal, mae'n rhaid i chi gynhyrchu egni - i'w cynhesu, eu bwydo a sicrhau eu bod nhw'n saff.
"Mae'n rhoi Cymru ar y map ac yn ein rhoi ni yn y ras i'r gofod hefyd. Bydden i'n dweud ein bod ni'n gwthio pethau [yn fyd eang]."
Ychwanegodd yr Athro Middleburgh y gallai'r dechnoleg hefyd gael ei defnyddio mewn llefydd sydd wedi colli pŵer oherwydd trychinebau.
"Mae gan y lluoedd arfog ddiddordeb yn y pethau 'ma... yn y dyfodol fe allen ni weld yr adweithyddion yn pweru mwyngloddiau sydd ar hyn o bryd yn defnyddio tanwyddau ffosil."
'Peryglon' heb ddeddfau newydd
Yn ôl y newyddiadurwr ac awdur geo-wleidyddol, Tim Marshall, mae'n gam arall yn y ras i gyrraedd pegwn deheuol y lleuad.
"Dwi'n hyderus y bydd gorsafoedd ar y lleuad erbyn y 2030au," meddai.
"Un Chineaidd mae'n siŵr, un wedi'i harwain gan yr UDA hefyd.
"Dwi'n hyderus achos dwi ddim yn meddwl all y pwerau mawr fforddio i beidio bod yno, jyst rhag ofn bod datblygiad mawr yn digwydd, fel sy'n debygol.
"Y gred yw bod titaniwm, lithiwm, silicon, haearn a llawer o fineralau eraill sy'n cael eu defnyddio ar gyfer pob math o dechnolegau yn yr 21ain Ganrif.
"Dydyn ni ddim yn gwybod faint ohono sydd - dyna pam bod cerbyd India yn brysur yn tyllu.
"Ond mae'r rhan fwyaf o gwmnïau yn hyderus y bydd yn ddigon i'w gwneud hi werth hi'n economaidd."
Ond rhybuddiodd y gallai pethau fynd yn flêr o ystyried bod y deddfau am y gofod bellach "50 mlynedd allan ohoni", ac yn dyddio yn ôl i gyfnod pan oedd popeth yn cael ei arwain gan wledydd.
"Heb ddeddfau newydd sydd wedi'u cytuno gan y Cenhedloedd Unedig fe fydd pethau'n rhywfaint o free-for-all i bawb - ac mae peryglon yn hynny," meddai.
"Achos os nad ydych chi'n gweithredu o fewn canllawiau, wedyn bydd cystadleuaeth amlwg yn digwydd a hynny heb fframwaith cyfreithiol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2022