Anhreg pen-blwydd 'perffaith' i Dad ar ddydd Nadolig

Y babi newydd gyda'i dad o flaen coeden 'dolig
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ferch fach ei geni am 03:01 fore Nadolig

  • Cyhoeddwyd

Mae tad newydd "ar ben ei ddigon" ar ôl croesawu'r "anrheg pen-blwydd perffaith" yn ystod oriau mân dydd Nadolig.

Cafodd Scott Smith ei eni ar ddydd Nadolig 1991, cafodd ei hen nain, Edie Jones, ei geni ar yr un dyddiad yn 1906, tra cafodd ei drydydd cefnder ei eni ar ddydd Nadolig yn 1992.

Dywedodd fod Sadie, mam y babi, yn "teimlo'n dda" ond gan fod y pâr wedi disgwyl bachgen, nid oes gan y ferch fach enw eto.

"Dyma ddiwrnod gorau fy mywyd," meddai'r dyn 33 oed o Donpentre, Rhondda Cynon Taf.

Wrth dynnu coes, fe ddywedodd fod gormod o'i deulu eisoes wedi eu geni ar ddydd Nadolig, felly roedd yr un bach yn "barod amdani".

Ychwanegodd fod y babi i fod i gael ei eni ar Ragfyr 21, felly pan aeth y diwrnod yna heibio fe feddyliodd am yr hyn roedd ei ffrindiau yn y gwaith wedi gosod bet arno.

"Fe wnaeth pob un ohonyn nhw ddweud mai 'dydd 'Dolig fydd y diwrnod' felly pan wnaeth y dyddiad disgwyliedig fynd heibio, ro'n ni jyst yn gwybod."

Ffynhonnell y llun, Scott Smith
Disgrifiad o’r llun,

Nid oedd y brawd mawr, Archi sy'n 8, yn disgwyl cael chwaer newydd

Tra bod y gweddill ohonom wedi bod wrthi'n siopa 'Dolig, roedd Scott yn rhuthro ei wraig i ganolfan enedigaeth Tirion yn Ynysymaerdy.

"Roedd yn hynod o brysur yno," meddai. "Ond roedd y bydwragedd yn wych."

"Fe wnaeth Sadie yn grêt."