Dyn wedi ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol Sir Gâr

Roedd Aaron Jones yn 38 oed ac yn byw yn Llanpumsaint
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dyn yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Gaerfyrddin.
Bu farw Aaron Jones, dyn lleol 38 oed, yn dilyn gwrthdrawiad â char wrth iddo fynd â'i gi am dro ym mhentref Llanpumsaint nos Lun.
Fe gadarnhaodd yr heddlu nos Fawrth eu bod wedi dod i hyd i gerbyd roedden nhw'n credu oedd yn y gwrthdrawiad.
Mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, methu ag aros wedi gwrthdrawiad a methu â hysbysu'r heddlu ynghylch gwrthdrawiad.
Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i deulu Mr Jones.
Mae'r gymuned leol mewn sioc yn dilyn marwolaeth Aaron Jones, medd y cynghorydd lleol Bryan Davies
Dywed yr heddlu bod y gwrthdrawiad wedi digwydd ger Capel y Bedyddwyr Caer Salem rhwng 18:45 a 19:45 nos Lun wrth i Mr Jones fynd â'i gi am dro.
Apeliodd yr heddlu yn gynharach ddydd Mawrth am gymorth i ddod o hyd i yrrwr y car oedd yn rhan o'r digwyddiad, gan ddweud eu bod yn awyddus iawn i siarad â gyrrwr cerbyd glas a fyddai â difrod amlwg iddo.
Roedden nhw'n amau bod y gyrrwr yn teithio i gyfeiriad y gogledd drwy'r pentref.
Maen nhw'n dal i apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd all gynnig lluniau dash cam, ac yn gofyn i bobl â chamerâu cloch drws i edrych trwy eu lluniau.

Parhau mae apêl yr heddlu i glywed gan unrhyw un allai daflu goleuni ar yr hyn ddigwyddodd ym mhentref Llanpumsaint rhwng 18:45 a 19:45 nos Lun
Dywedodd y cynghorydd Bryan Davies fod y gymuned leol yn "galaru" ar Noswyl Nadolig.
"Mae'r gymuned wedi mynd yn dawel. Mae'n hollol dawel 'ma heddiw. Pawb mewn galar ac yn methu dygymod gyda beth sydd wedi digwydd" meddai.
"Mae'n rhaid i fi ddweud bod y bachgen hwn mor frwdfrydig yn y gymuned. Pawb yn ei nabod e.
"Roedd calon dag e i bawb ac amser i bawb a dim digon galle fe neud dros bobl.
"Gallwn ni ond cydymdeimlo'n ddwys â'r teulu gyda beth sydd wedi digwydd, y drychineb hyn."
Ychwanegodd: "Nid lle fi yw hi i leisio barn y gymuned, ond mae'r tawelwch yma heddiw yn arwydd o gydymdeimlad y gymuned i gyd."