'Ennill i Gymru' ar The Great British Bake Off wedi 'newid fy mywyd'
- Cyhoeddwyd
Wedi 10 wythnos o gystadlu brwd yn erbyn 11 o gystadleuwyr eraill, Cymraes o Sir Gâr oedd enillydd y gyfres deledu boblogaidd The Great British Bake Off eleni.
Dywedodd Georgie Grasso, sy'n gweithio fel nyrs yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, fod ennill y gystadleuaeth wedi bod yn "freuddwyd" ac wedi newid ei bywyd.
Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, ychwanegodd ei fod yn rhywbeth "'nes i fyth ddychmygu y gallwn i ei gyflawni, i rywun sydd â chymaint o self-doubt".
"Ro'n i wastad wedi bod eisiau ymgeisio, ond wedi meddwl nad oedd fy nghoginio yn ddigon safonol," meddai.
"Dwi'n hynod falch o fy hun a dwi ddim yn dweud hynny'n aml."
Derbyn cariad 'anhygoel'
Georgie oedd y person cyntaf o Gymru i gyrraedd y rownd derfynol ac ennill GBBO.
"Ro'n i'n methu credu mai fi oedd y person cyntaf o Gymru i gyrraedd y ffeinal heb sôn am ennill," meddai.
"Mae'n sicr yn ychwanegu at y fuddugoliaeth, ond nid dim ond ennill y sioe, ond ennill i Gymru hefyd."
Wrth sôn am ei phrofiad ar y gyfres, dywedodd fod y ffilmio wedi dod i ben fis Gorffennaf diwethaf a'i bod wedi gorfod cadw'r gyfrinach tan fis Tachwedd.
"Roedd yn newyddion hynod o gyffrous ac roedd sawl tro lle'r oeddwn i eisiau cyhoeddi'r newyddion wrth fy nheulu," meddai.
"Ond roeddwn i wir eisiau cael pawb ynghyd i wylio'r rownd derfynol, felly 'nes i lwyddo i fyw drwy'r misoedd yn cadw'r gyfrinach!"
Dywedodd fod y broses "yn union fel ti'n gweld ar y teledu" er bod rhannau, o reidrwydd, yn cael eu golygu.
Roedd yr holl gystadleuwyr wedi cydweithio'n dda o'r cychwyn, meddai, ac nad oedd y broses yn teimlo'n gystadleuol o gwbl oherwydd hynny.
Yn dilyn ei llwyddiant, dywedodd iddi dderbyn llawer o gefnogaeth ar-lein, yn enwedig am siarad yn agored am fyw gyda chyflwr ADHD, dolen allanol.
"Mae'r cariad a'r dymuniadau gorau wedi bod yn anhygoel a dwi mor browd fy mod wedi gallu codi ymwybyddiaeth o ADHD drwy hynny."
Cyngor coginio dros y Nadolig
Fel y gallwch chi ddychmygu, mae Georgie wrth ei bodd yn coginio adeg y Nadolig, gan arbrofi â ryseitiau newydd.
Dywedodd iddi gychwyn traddodiad newydd y llynedd wrth goginio gŵydd ar gyfer y cinio Dolig a'i bod am wneud yr un fath 'leni.
"Dwi wastad yn coginio twrci hefyd fel fy mod i'n gallu gwneud pei a baguettes y diwrnod ar ôl Nadolig," ychwanegodd.
Wrth sôn am y pwdinau, dywedodd ei bod "wastad yn gwneud Cranberry Frangipane hefyd - fy ffefryn - ond dyw'r plant ddim yn or-hoff o hwnna felly dwi'n paratoi chocolate profiteroles iddyn nhw!"
Dywedodd ei bod fel arfer yn "coginio ar gyfer tua 10-12 o bobl ar ddiwrnod Nadolig" a bod criw o 35 yn dod ynghyd ar noswyl Nadolig i ddathlu eu Nadolig Eidalaidd.
Wrth iddi edrych ymlaen at y Nadolig wedi blwyddyn brysur a llwyddiannus, dywedodd mai ei phrif gyngor yw paratoi tipyn o'r bwyd o flaen llaw.
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf dwi wedi bod yn pilio a thorri'r holl lysiau y noson gynt, a'u cadw mewn dŵr oer.
"Dwi am baratoi fy nhatws rhost eleni hefyd," meddai ond dywedodd nad yw'n meindio coginio dydd Nadolig gan ei fod yn rhan o'r hwyl.
Gobaith Georgie yw parhau â'i choginio ac mae'n dymuno cyhoeddi llyfr coginio maes o law.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2024