Dathlu 20 mlynedd o raglen Jonathan

jonathanFfynhonnell y llun, S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-chwaraewr rygbi a sylwebydd, Jonathan Davies, wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar ein teledu ers blynyddoedd.

Eleni, mae'r rhaglen boblogaidd, Jonathan, ar S4C yn dathlu 20 mlwyddiant.

Yn y gyfres gyntaf, yn ymuno â Jonathan (Jiffy) yn cyflwyno oedd Nigel Owens, Rowland Phillips ac Eleri Siôn.

Rhwng 2009 a 2011 roedd Alex Jones ar y rhaglen, ac ers 2011 mae Sarra Elgan wedi bod yn rhan o'r cast.

Felly, i ddathlu'r garreg filltir arbennig yma, dyma olwg ar rai o uchafbwyntiau'r rhaglen dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Disgrifiad,

Rhai o uchafbwyntiau rhaglen Jonathan

10 – Glyn Wise yn stripio (2006)

Wedi i 'frawd mawr' Jonathan ddweud wrtho i stripio i'w siorts achubwr bywyd yn 2006, mae Glyn yn cydymffurfio, gan ddawnsio'i ffordd allan o'i ddillad o flaen cynulleidfa gynhyrfus!

9 – Sgetsh tywydd (2006)

Er mwyn anrhydeddu gwestai'r bennod, y wraig dywydd Siân Lloyd, mae Nigel yn rhoi cynnig ar ddarllen y tywydd tra bod Rowland Phillips yn helpu'r gynulleidfa i ddelweddu ei ragolygon yn y sgets glasurol hon o 2006.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y cyflwynwyr gwreiddiol; Jonathan a Nigel yng nghwmni Rowland Phillips ac Eleri Siôn

8 – Sialens Robin Hood (2010)

Cyn iddi gyflwyno The One Show, roedd Alex Jones yn ran reolaidd o antics Nigel a Rowland mewn amrywiol heriau. Yn 2010, mae Alex, Nigel a Rowland yn ymgymryd â saethyddiaeth mewn gwisg amheus.

7 – Eleri yn chwarae tric ar Lyn Jones (2005)

Roedd Lyn Jones yn brancster adnabyddus yn yr ystafell newid pan oedd yn chwarae rygbi, felly penderfynodd Eleri Siôn ddial arno drwy wisgo fel masgot y Gweilch yn ystod sesiwn tynnu lluniau marchnata yn 2005.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y criw yn 2010, pan oedd Alex Jones yn rhan o'r sioe

6 – Rap Rowland a Nigel (2007)

Yn y fideo cerddoriaeth gorau erioed, daw MC Rowli Phill yn fyw yn ei rap, gyda Nigel yn ychwanegu'r ad-libs. Roedd geiriau Rowland ei hun mor dda fel ei fod yn eu cofio 17 mlynedd yn ddiweddarach!

5 – Sialens neidr (2015)

Mae Nigel yn adnabyddus am fod yn eithaf nerfus yn yr heriau amrywiol sydd wedi bod dros 20 mlynedd y sioe, ond ni wnaeth unrhywbeth iddo symud mor gyflym â chwrdd â neidr fyw yn 2015!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ers 2011 mae Sarra Elgan wedi ymddangos ar y rhaglen

4 – Gorila'n chwarae drymiau (2010)

Gyda dau ddrymiwr brwd ar y soffa yn 2010 (Dewi Pws a Roz Richards) mae Alex yn croesawu gorila sy'n chwarae'r drymiau i'r set, ond datgelir mai'r gorila yw cyn ddrymiwr y Stereophonics, Stuart Cable.

3 – Jiffy a Dirty Sanchez (2006)

Yn yr her gorfforol fwyaf poenus yn 2006, mae Jonathan, Nigel a Rowland yn cymryd rhan mewn rhai heriau Dirty Sanchez. Un o'r mwyaf eithafol oedd Jiffy'n teimlo band elastig yn cael ei ryddhau ar ei dalcen… sy'n gadael dipyn o farc!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Jonathan dros Gastell Nedd, Lanelli a Chaerdydd yn ei yrfa rygbi'r undeb, a chwaraeodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn rygbi'r gynghrair gyda Widnes a Warrington

2 – Datgelu siwt Rowland (2006)

Ar ôl cael llond bol o chwarae'r 'prat' am ddwy flynedd yn 2006, mae Rowland yn dechrau'r bennod mewn siwt lân i symboleiddio 'fi newydd', ond wrth iddo droi rownd mae o'n datgelu ei suspenders oddi tano!

1 – Nigel yn dod 'allan' (2005)

Daeth moment mwyaf eiconig y sioe ar Ddydd Calan yn 2005 pan ddaeth Nigel Owens yn llythrennol 'allan o'r cwpwrdd' ar ddechrau'r bennod i gymeradwyaeth enfawr. Syniad Jiffy oedd hwn yn wreiddiol fel ffordd o helpu Nigel i ddod allan yn gyhoeddus.

Pynciau cysylltiedig