Heddlu Dyfed-Powys yn penodi Ifan Charles yn Brif Gwnstabl newydd

Y Prif Gwnstabl newydd, Ifan Charles (chwith) gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn
- Cyhoeddwyd
Mae Ifan Charles wedi cael ei benodi yn Brif Gwnstabl newydd ar Heddlu Dyfed-Powys.
Ym mis Medi fe gyhoeddodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, mai Mr Charles oedd yr ymgeisydd dewisol ar gyfer y swydd.
Mewn datganiad fore Mercher, fe gadarnhaodd y llu fod y penderfyniad hwnnw wedi ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Panel Heddlu a Throsedd.
Ymunodd Mr Charles â'r llu yn 2004, ac ers hynny mae wedi cyflawni sawl rôl o fewn CID a phlismona lifrog yn y pedair sir ar rengoedd gwahanol.
Cafodd ei benodi yn Ddirprwy Brif Gwnstabl ym mis Gorffennaf y llynedd, ac yn dilyn ymddiswyddiad Dr Richard Lewis fel Prif Gwnstabl yn gynharach eleni, cafodd ei benodi yn Brif Gwnstabl dros dro.
'Dioddefwyr wrth wraidd popeth a wnawn'
Dywedodd y Prif Gwnstabl Ifan Charles: "Mae bod yn Brif Gwnstabl yn ymwneud â gwasanaethu a chyflawni heddiw ar gyfer cymunedau Dyfed-Powys ond hefyd â chreu ac adeiladu gwaddol o gymuned fwy diogel, iachach a ffyniannus yn y dyfodol."
"Wrth greu'r gwaddol hwn, byddaf yn ddilys, yn weladwy ac yn ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar berthnasoedd ffyniannus â chymunedau, partneriaid, sefydliadau gwirfoddol a'n gweithlu i sicrhau bod y cyhoedd a dioddefwyr yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn."
Dywedodd Mr Llywelyn fod "Mr Charles wedi dangos arweinyddiaeth eithriadol, proffesiynoldeb, a gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol Heddlu Dyfed-Powys".
"Mae ganddo ddealltwriaeth ddofn o'r sefydliad a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, ac mae gennyf bob hyder yn ei allu i arwain yr Heddlu gyda gonestrwydd, tosturi, a phenderfyniad," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at gyd-weithio gyda Mr Charles gan "ganolbwyntio ar ddarparu plismona effeithiol a gweladwy, buddsoddi mewn atal, a chefnogi'r swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ymroddedig sy'n gweithio'n ddiflino i gadw ein cymunedau'n ddiogel."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.