Erlyn cwmni ar ôl i ddyn farw wedi llawdriniaeth colli pwysau

Phil Morris a'i deuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweddw Philip Morris yn dweud nad ydyn nhw wedi gallu dechrau galaru eto

  • Cyhoeddwyd

Mae gweddw dyn 48 oed fu farw ar ôl cael triniaeth i golli pwysau yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cwmni preifat wnaeth roi'r llawdriniaeth iddo.

Bu farw Philip Morris yn 2021, o Gasnewydd, bedwar diwrnod ar ôl llawdriniaeth gastrectomi yn Ysbyty Spire St Anthony's yn Cheam, Surrey.

Ym mis Chwefror 2024, daeth crwner i'r casgliad y byddai mwy na thebyg wedi byw pe bai dyfais monitro carbon deuocsid yn gweithio yn iawn.

Dywedodd Spire Healthcare eu bod yn derbyn casgliadau'r crwner a'u bod wedi gwneud gwelliannau o ganlyniad.

Fe dderbyniodd gweddw Mr Morris ddau daliad iawndal gan Spire Healthcare yn 2024, ond mae Dana Morris bellach yn bwriadu erlyn y cwmni.

Yn ôl Dana, mae amharodrwydd Spire i dderbyn cyfrifoldeb llawn a chytuno ar setliad ariannol wedi achosi "galar pellach heb fod angen".

"Does dim modd i ni symud ymlaen yn ein galar... dwi ddim yn teimlo ein bod ni wedi dechrau'r broses yn iawn eto," meddai.

Mae papurau cyfreithiol sydd wedi eu gweld gan BBC Cymru yn cynnwys honiadau o driniaeth annigonol gan Spire Healthcare a'r meddygon cyn, yn ystod ac yn dilyn y llawdriniaeth.

Nid oes dyddiad wedi ei bennu ar gyfer yr achos yn yr Uchel Lys eto.

Phil Morris a'i fabFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Phil Morris ddiagnosis diabetes yn 1995, ac wedyn apnoea cwsg yn 2007

Roedd Mr Morris yn actor, awdur, darlithydd prifysgol, ac yn un o sylfaenwyr y Wales Arts Review - lle'r oedd yn rheolwr gyfarwyddwr rhwng 2012 a 2016.

Fe symudodd y teulu o Gasnewydd i dde Llundain yn 2016.

Fe wnaeth Mr Morris, oedd yn pwyso 22 ston ac wedi cael diagnosis o diabetes math 2 ac apnoea cwsg, benderfynu mynd yn breifat oherwydd oedi gyda thriniaeth y Gwasanaeth Iechyd wedi'r pandemig.

Wedi'r llawdriniaeth fe gafodd boenau difrifol yn yr abdomen, oedd yn ei gwneud hi'n anodd iddo siarad ac anadlu.

Cafodd Mr Morris ei roi yn uned gofal dwys yr ysbyty preifat a phenderfynwyd rhoi pibell yn ei wddf i geisio gwella ei anadlu wrth aros am wely yn un o ysbytai'r GIG.

Mewn cwest gafodd ei gynnal ym mis Chwefror y llynedd, dywedodd yr Uwch Grwner Sarah Ormond-Walshe fod y driniaeth yn "hynod o anodd" ac nad oedd modd sefydlogi llwybr anadlu Mr Morris.

Phil Morris a DanaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen sicrhau nad yw hyn yn digwydd i unrhyw deulu arall, meddai Dana Morris

Ychwanegodd y crwner fod cyfleodd wedi eu colli wrth geisio creu llwybr anadlu newydd gan nad oedd dyfais monitro carbon deuocsid yn gweithio yn iawn.

"Doedd neb wedi gwirio fod y ddyfais yn gweithio," meddai, gan nad oedd hyn yn gyfrifoldeb ar unrhyw unigolyn i wneud hynny.

Mewn casgliad naratif, dywedodd y crwner fod Mr Morris wedi marw ar ôl "dioddef cymhlethdodau triniaeth frys a wnaed i drin cymhlethdodau llawdriniaeth ôl-fariatrig".

'Mae'n rhaid dysgu gwersi'

Flwyddyn yn ddiweddarach mae Dana, 49, a'i mab Orson, 15, wedi cael diagnosis o PTSD, ac mae Orson yn dal i fod angen cwnsela.

"Ry'n ni'n teimlo fel ein bod ni'n ceisio sicrhau cyfiawnder i Phil," meddai Dana.

"Dydi hi ddim yn iawn ei fod o wedi mynd yno er mwyn gwella ei iechyd, ac mae'n anodd meddwl am sut fyddai bywyd pe bai popeth wedi mynd yn iawn.

"Mae camgymeriadau Spire yn golygu ein bod ni wedi colli Phil a bod yn rhaid i ni fyw gyda sgil effeithiau hynny am byth.

"Mae'n rhaid dysgu gwersi fel nad yw hyn yn digwydd i unrhyw deulu arall fyth eto."

Wedi'r cwest, dywedodd Spire Healthcare eu bod nhw'n derbyn casgliadau'r crwner, gan ymddiheuro i deulu Mr Morris am eu gofid.

Dywedodd y cwmni nad oedd yn gallu gwneud sylw ar fanylion penodol, oherwydd bod camau cyfreithiol yn parhau.

Ond fe ddywedodd llefarydd: "Ry'n ni'n ymddiheuro am y gofid gafodd ei achosi gan farwolaeth Mr Morris.

"Gallwn gadarnhau ein bod ni'n ymateb i honiadau Ms Morris drwy'r sianelau cyfreithiol cywir."

Pynciau cysylltiedig