Dynes o Wynedd wedi marw ar ôl i feddygfa oedi anfon doctor ati

Jackie JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jackie Jones yn 63 oed ar 9 Gorffennaf 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae meddygfa wedi cael cais i ymddiheuro a thalu iawndal i deulu menyw o Ddolgellau fu farw'n fuan ar ôl i'r feddygfa wrthod gyrru meddyg i'w chartref i'w gweld.

Fe wnaeth teulu Jackie Jones gŵyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn honni bod staff Meddygfa Caerffynnon yn Nolgellau wedi dweud deirgwaith nad oedd doctoriaid yn gwneud ymweliadau cartref.

Ond roedden nhw'n gwneud hynny mewn gwirionedd, ac fe gymrodd rhai dyddiau i feddyg gael ei anfon i'w gweld yn y pendraw.

Cafodd Ms Jones ei gyrru i'r ysbyty, ble bu farw'n 63 oed lai na phythefnos yn ddiweddarach.

Dywed Meddygfa Caerffynnon na allen nhw fynegi barn ar y mater oherwydd polisi cyfrinachedd cleifion.

Meddygfa Caerffynnon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ombwdsmon wedi argymell i Feddygfa Caerffynnon ymddiheuro a thalu iawndal i deulu Jackie Jones

Bu farw Jacqueline Jones o Ddolgellau ar 9 Gorffennaf 2023 yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Yn y pythefnos cyn ei marwolaeth doedd ei hiechyd ddim wedi bod yn dda.

Ar 27 Mehefin fe wnaeth ei nith Kate Sutton ffonio Meddygfa Caerffynnon i ofyn am ddoctor i ymweld â'i modryb oherwydd ei bod hi'n cael trafferth cerdded.

Dywedodd Ms Sutton: "Oedd hi methu symud... oedd ei thraed hi wedi chwyddo a phetha' fel'na.

"Oedd hi'n cwyno bod hi mewn poen a o'n i jyst ddim yn gwybod be' i 'neud efo hi. Doedd hi jyst ddim ei hun."

Kate Sutton
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd nith Ms Jones, Kate Sutton, mai dim ond wedi iddi golli ei thempar gyda'r feddygfa y cafodd meddyg ei yrru i'w gweld

Ychwanegodd: "Ddaru fi ffonio'r surgery a ddaru nhw ddweud wrtha i 'na, tydi'r doctoriaid ddim yn gwneud home visits' a ddaru nhw roi cyngor i fi i ffonio social services os 'di hi'n methu symud neu'n methu sefyll.

"Ddaru fi ffonio social services ond do'n i dal ddim yn hapus efo'r ffordd oedd hi. Ddaru fi ffonio'r surgery yn ôl a'r un neges - 'doctors don't do home visits'."

"Ar y dydd Gwener [dridiau ers yr alwad gyntaf] ddaru fi golli tempar fi efo'r staff a gofyn 'be dwi fod i wneud ta?'

"Rhoddon nhw hi ar y rhestr i ddoctor ffonio hi nôl a dyna be' ddigwyddodd.

"Wedyn ddo'th 'na doctor allan i'w gweld hi a'i gyrru yn syth i Ysbyty Glan Clwyd."

Jackie JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jackie Jones ei gyrru i Ysbyty Glan Clwyd ar ôl cael ei gweld gan ddoctor

Yn Ysbyty Glan Clwyd bu'n rhaid torri un o goesau Ms Jones i ffwrdd, ond dirywiodd ei hiechyd ymhellach a bu farw ar 9 Gorffennaf 2023 oherwydd effeithiau sepsis a chymhlethdodau eraill.

Yn dilyn ei marwolaeth fe wnaeth Ms Sutton gwyn swyddogol i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, gan honni ei bod wedi cael gwybodaeth anghywir gan Feddygfa Caerffynnon pan ddywedwyd nad oedd doctoriaid yn ymweld â chartrefi.

Ar ôl ymchwilio i'r mater, mae'r ombwdsmon wedi cefnogi'r gŵyn, ond dyw'r adroddiad ddim yn dweud a wnaeth yr oedi gyfrannu at farwolaeth Ms Jones.

Yn ei hadroddiad mae'r ombwdsmon Michelle Morris yn argymell bod Meddygfa Caerffynnon yn ymddiheuro i Ms Sutton ac yn talu £750 o iawndal iddi am y loes a phoen meddwl a achoswyd.

Mae'n argymell hefyd bod y feddygfa yn rhoi hyfforddiant ychwanegol i'r staff gweinyddol er mwyn sicrhau eu bod yn deall yn llawn y polisi meddyg yn ymweld â'r cartref.

Ychwanegodd yr ombwdsmon nad oedd y polisi wedi'i ddilyn yn gywir yn yr achos yma, a bod y feddygfa wedi cytuno i weithredu ar yr argymhellion.

Meddygfa Caerffynnon
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd llefarydd ar ran y feddygfa na allen nhw fynegi barn ar y mater oherwydd polisi cyfrinachedd cleifion

Dywedodd Mabon ab Gwynfor, yr aelod lleol o'r Senedd sy'n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd, bod gwersi i'w dysgu o'r achos.

Galwodd ar y feddygfa i "ystyried y protocol ynghylch galw meddygon allan".

"Oedd y diweddar Jacqueline Jones wedi bod yn dioddef poen yn ei choes," meddai.

"Oedd hi'n byw mewn fflat ac yn methu cyrraedd y feddygfa, felly roedd angen i rywun fynd allan.

"Ond roedd y cofnodion yn dangos bod 'na ddim bygythiad i'w bywyd hi ac felly roedd y protocol yn awgrymu na ddylai meddygon ymweld â hi.

"Ond yn amlwg o fewn ychydig iawn o ddyddiau roedd ei chyflwr hi wedi dirywio i'r pwynt bod hi wedi colli ei choes ac yna yn anffodus wedi colli ei bywyd."

Meddygfa breifat ydy Meddygfa Caerffynnon, ond dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wrth yr ombwdsmon eu bod wedi cysylltu â'r feddygfa yn dilyn y gŵyn.

Dywedodd y bwrdd iechyd bod y feddygfa wedi rhoi sicrwydd mai clinigwyr, ac nid staff gweinyddol, sy'n penderfynu a ddylid gwneud ymweliadau cartref.

Pynciau cysylltiedig