Rhybudd y gallai tatŵs gostio mwy wrth i reolau newydd ddod i rym

Llun o Jules yn ei stiwdio tatŵ
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jules wedi rhedeg ei stiwdio tatŵ yng Nghaernarfon ers 10 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae yna rybudd y gallai costau triniaethau arbenigol fel tatŵio a thyllu’r corff godi yn sgil rheolau newydd Llywodraeth Cymru.

O ddydd Gwener ymlaen mae’n rhaid i unigolion sy’n cynnig y fath driniaethau gyflawni hyfforddiant penodol a gwneud cais am drwyddedau newydd.

Nod y cynllun - y cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig - yw gwella safonau a lleihau heintiau.

Ond mae yna bryder am gost y trwyddedau newydd, gydag un artist tatŵ yn dweud ei fod wedi ystyried rhoi’r gorau i’w fusnes oherwydd y cynllun.

Beth sy'n digwydd?

Dan y rheolau newydd, bydd yn rhaid i fusnesau sy’n cynnig triniaethau arbenigol fel tatŵio, tyllu’r corff, electrolysis ac aciwbigo dalu am ddwy drwydded wahanol.

Y cyntaf yw trwydded arbenigol ac mae'n rhaid i bob ymarferydd yng Nghymru wneud cais am hynny. Cost y drwydded yw £203, ac mae’n para tair blynedd.

Tystysgrif i ddangos bod y stiwdio ei hun yn saff i’w defnyddio yw’r ail ran. Mae cais am hynny’n costio £385 am dair blynedd.

Fel rhan o’r broses bydd yn rhaid i bob unigolyn sy’n cynnig y fath driniaethau gwblhau cwrs atal a rheoli heintiau a sicrhau bod eu gweithle yn cyrraedd safonau diogelwch llym.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolau tatŵio Cymru'n newid o ddydd Gwener

Yn ôl Jules Lee, sydd wedi rhedeg ei stiwdio tatŵ yng Nghaernarfon ers rhyw 10 mlynedd, bydd y newidiadau’n cael effaith ar gwsmeriaid.

“Dwi’n rhagweld bydd costau’n gorfod mynd fyny. Mae’r drwydded newydd yn costio llawer i fusnesau bach fel ni, felly does dim llawer o ddewis,” meddai.

“Yr ochr positif ydy dylen nhw stopio'r rheini sy’n gweithio heb drwydded rŵan ac sydd ddim yn gwybod beth maen nhw’n gwneud rhag parhau yn y maes, pobl sy’n chwarae gydag iechyd pobl mewn gwirionedd.

“Ond mae ein costau ni wedi codi beth bynnag dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae cael hwn ar ben hynny’n anodd.”

Yn tatŵio yn ardal Llandrillo-yn-Rhos ers dros 15 mlynedd, dyw Hefin Hughes ddim yn cytuno gyda’r costau ychwanegol.

“Pan glywes i fod hwn yn digwydd nes i wir feddwl am gau’r busnes ac osgoi’r holl drafferth efo’r drwydded newydd a’r costau ychwanegol.

“Dwi wedi bod yn cyrraedd y safon sydd angen ers dros 15 o flynyddoedd.

"Pam dwi rŵan yn gorfod talu cannoedd o bunnoedd am drwydded newydd i ddangos hynny?”

'Da ni'n gyfrifol am iechyd pobl'

Nid pawb yn y diwydiant sy’n cytuno. Mae Ffion Hughes yn rhedeg busnes sy’n cynnig tatŵs meddygol a cholur lled-barhaol yng Nghaernarfon yn dweud ei bod hi’n “hen bryd i’r newidiadau yma ddod i rym”.

Dywedodd: “Dwi’n meddwl bod y newidiadau yma yn rili da.

"'Da ni’n gweithio mewn maes lle 'da ni’n gyfrifol am iechyd pobl ac nid pawb yn y diwydiant sydd wedi bod yn ymwybodol o’r effaith negyddol mae gwneud pethau’n anghywir yn gallu cael ar bobl.

“Mae rhan fwyaf o’r artistiaid yn yr ardal yma yn arbennig, ond dwi wedi gweld ambell i berson yma sydd angen cael gwared ar datŵ dychrynllyd, neu maen nhw efo craith sydd angen gwella, neu bobl sydd efo haint ar ôl cael triniaeth.”

Ychwanegodd: “Dwi’n deall bydd rhai yn anhapus ond does dim ffordd arall o reoli’r diwydiant i sicrhau diogelwch.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae busnes Ffion Hughes yn cynnig triniaeth arbenigol i bobl sydd wedi dioddef afiechydon fel canser

Mewn ymateb i bryderon rhai yn y diwydiant fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: “Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn lleihau'r risgiau hylendid a diogelwch sy'n gysylltiedig â'r triniaethau arbennig hyn... gan roi sicrwydd i unrhyw un sy'n ystyried cael triniaeth."

Ychwanegon nhw: “Mae'r ffioedd yn cael eu gosod ar sail adennill costau, sy'n golygu eu bod yn cael eu gosod gan awdurdodau lleol i dalu eu costau o brosesu ceisiadau a rhedeg y cynllun.

"Ni fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw arian o’r cynllun hwn.”