Mwmbwls: Pryder am lai o ymwelwyr yn sgil gwaith adeiladu
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau yn y Mwmbwls yn Abertawe yn dweud bod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng "yn sylweddol" ers i waith ddechrau ar adeiladu amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd.
Dywedodd Giuseppe Catalano, cogydd yn y bwyty Eidalaidd La Dolce Vita, fod nifer yr ymwelwyr â'r bwyty wedi gostwng tua 60% ers i'r gwaith ddechrau.
Tra bod busnesau wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn deall bod angen yr amddiffynfeydd newydd, mae hi’n “hollol glir” i fusnesau bod llai o bobl yn ymweld â’r pentref.
Mae cynghorwyr a pherchnogion busnes yn galw am gefnogaeth bellach gan Gyngor Abertawe.
Mewn datganiad dywedodd y cyngor mai'r cynllun £25m yw'r buddsoddiad mwyaf yn y Mwmbwls ers cenedlaethau, ac y bydd y prom newydd yn denu mwy fyth o ymwelwyr, gan fod o fudd i fusnesau am flynyddoedd i ddod.
Mae bwyty La Dolce Vita wedi bod ar agor ers naw mlynedd, ac yn ôl Giuseppe Catalano, eleni yw'r flwyddyn dawelaf y mae'n ei gofio.
“Rydyn ni'n fwyty sefydledig, ac rydyn ni'n gwybod mai dim ond dros dro yw e, ond mae'r biliau, y rhent, y trethi - maen nhw'n dod beth bynnag," meddai.
“Rwy’n deall bod angen y gwaith ac y bydd yn braf erbyn y diwedd, ond mae’n effeithio ar y busnes.
“Mae’r Mwmbwls yn hyfryd ar gyfer golygfa o’r môr, ond does dim golygfa bellach, ac nid ein busnes ni’n unig sy’n cael ei effeithio.
"Rydyn ni’n siarad â nifer o gwmpas yr ardal ac mae’n cael effaith ar bopeth.”
Adeiladwyd yr amddiffynfeydd môr gwreiddiol yn y 19eg ganrif, ac maent wedi cael eu cynnal a'u hatgyweirio nifer o weithiau dros y blynyddoedd.
Ond mae'r cyngor yn dweud oherwydd eu hoedran, ddaethon nhw'n ddiffygiol.
Roedd y prosiect, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, i fod i ddod i ben yn wreiddiol eleni, ond mae bellach wedi’i symud i 2025.
Mae Carwyn Tomos yn berchen ar lety gwyliau yn yr ardal, ac er ei fod wedi sylwi bod busnes yn dawelach eleni, nid y gwaith yn unig sydd ar fai, meddai.
“Mae busnes wedi cwympo bach, ond mae yn newid o flwyddyn i flwyddyn," meddai.
“Mae’r buddsoddiad yn un eitha' mawr i ni yn y Mwmbwls, ac mae mynd i wella’r ardal, ond mae wedi mynd ymlaen am dipyn o amser.
“Gaethon ni ddim tywydd da iawn yr haf hyn, mae popeth yn costio mwy, ond mae hwn yn un peth eto sydd ddim yn helpu.
“Unwaith i’r gwaith orffen, fi’n credu bydd e’n denu mwy o bobl i’r Mwmbwls.”
Yn ôl Tom Giffard, AS y Ceidwadwyr Cymreig dros Orllewin De Cymru, mae angen i’r cyngor gefnogi’r busnesau lleol.
“Mae’n glir bod y gwaith yn rhywbeth positif, ond mae’n cael effaith ar y busnesau lleol," meddai.
"Mae pobl yn dweud bod llai o bobl yn dod yma, felly mae’n bwysig bod y cyngor yn gweithio gyda’r busnesau lleol i sicrhau dyfodol iddyn nhw.
“Dylai’r busnesau gael rhyw fath o gymorth ariannol. Dyna ran o apêl y pentref - y busnesau bach.”
'Gwaith hanfodol'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe eu bod yn “cydnabod y pryderon gwirioneddol a godwyd gan fusnesau ond mae’r gwaith hwn yn hanfodol i atal llifogydd mewn busnesau a chartrefi”.
Ychwanegodd y bydd y promenâd newydd yn gwneud y Mwmbwls yn “gyrchfan hyd yn oed yn fwy dymunol, a fydd o fudd i fusnesau am flynyddoedd lawer i ddod”.
“Yn ystod y gwaith mae cannoedd o fannau parcio cyhoeddus yn parhau yn y Mwmbwls, gyda rhai mannau newydd yn cael eu creu ar ymyl y ffordd.
“Mae contractwyr yn parhau i gynnal sesiynau galw heibio misol ar gyfer busnesau a’r cyhoedd fel y gellir mynd i’r afael ag unrhyw faterion a godir ganddynt lle bo modd.”