Gweithwyr rheilffordd yn helpu diffodd tân ger Blaenau Ffestiniog

Yr olgyfa o un o gerbydau'r trenFfynhonnell y llun, Nicholas Turner
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o weithwyr y rheilffordd i'w weld yn helpu chwistrellu dŵr ar y fflamau

  • Cyhoeddwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn dweud bod gweithwyr rheilffordd wedi bod yn eu helpu ymateb i dân mawr ar lethrau ger Blaenau Ffestiniog.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc cyn 16:50 brynhawn Iau.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth fod y fflamau wedi lledaenu dros ardal 3,000 o fetrau sgwâr mewn maint, a bod dau griw tân a cherbydau a swyddogion arbenigol yn rhan o'r ymateb.

Ychwanegodd y llefarydd fod gweithwyr Rheilffordd Ffestiniog wedi bod yn defnyddio un o'u tanceri dŵr wrth gefnogi'r gwaith o daclo'r fflamau.

un o weithwyr y rheilffordd yn helpu chwistrellu dŵr ar y fflamauFfynhonnell y llun, Nicholas Turner

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.