Cymru 'i elwa' o gael cynrychiolydd yn rhan o Ystâd y Goron

Fferm wyntFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwerth dros £603 miliwn o dir ar draws Cymru ym meddiant y goron, gan gynnwys 65% o arfordir Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Ystâd y Goron am benodi cynrychiolydd o Gymru i sicrhau bod y wlad "yn elwa" o brosiectau ynni oddi ar yr arfordir yn y dyfodol.

Y Brenin sydd berchen ar Ystâd y Goron, ac mae'n helpu i ariannu'r Teulu Brenhinol.

Mae gan yr ystâd dir sydd werth dros £603m yng Nghymru, yn cynnwys 65% o wely'r môr o amgylch yr arfordir.

Yn yr Alban, mae'r arian mae Ystâd y Goron yn ei hawlio yn mynd i Lywodraeth yr Alban, ond nid dyma'r drefn yng Nghymru.

Ond mae 'na alwadau wedi bod i newid hynny ac i ddatganoli rheolaeth o'r tir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens fod yn "rhaid i ni gael y gynrychiolaeth sydd ei angen arnom ni"

Fel rhan o gytundeb gafodd sêl bendith Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru, mi fydd comisiynydd Cymreig yn rhan o'r corff am y tro cyntaf.

Yn ôl Swyddfa Cymru, mi fydd y comisiynydd yn gyfrifol am "gynghori ar weithredu Ystâd y Goron yng Nghymru, ac yn sicrhau bod llais Cymru'n cael ei glywed".

Mae disgwyl i Ystâd y Goron elwa'n sylweddol o ddatblygiad ynni gwyrdd, yn enwedig ynni gwynt oddi ar yr arfordir yn y môr Celtaidd.

Mae'r newidiadau yma'n cael eu gwneud fel rhan o welliant i Fil Ystâd y Goron, sydd ar hyn o bryd yn mynd drwy'r broses ddeddfwriaeth yn San Steffan.

Mae Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Lafur yn cefnogi'r gwelliant gan yr Arglwydd Hain.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Farwnes Carmen Smith o Blaid Cymru am weld Ystâd y Goron yn cael ei ddatganoli yn llwyr

Er yn croesawu'r gwelliant, mae Plaid Cymru yn dweud nad yw'n mynd yn ddigon pell.

Yn ôl y Farwnes Carmen Smith, mae Plaid Cymru eisiau datganoli Ystâd y Goron yn llwyr ac yn dweud y dylid gofyn am ganiatâd gan Lywodraeth Cymru cyn gweithredu unrhyw newid yng Nghymru.

"Rydym yn credu y dylai'r elw sy'n dod o Ystâd y Goron yng Nghymru gael ei fuddsoddi yn uniongyrchol yng nghymunedau Cymru, yn hytrach na chael eu dargyfeirio i San Steffan," meddai.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens mae hyn yn "gam sylweddol tuag at sicrhau bod ffyniant Cymru wrth galon bwriad y llywodraeth i ddod yn bŵer mawr mewn ynni glân".

"Mi allai Cymru elwa yn fawr o fuddsoddiad mewn ynni oddi ar yr arfordir ac mae'n rhaid i ni nawr gael y gynrychiolaeth sydd ei angen arnom ni i allu gwneud y mwyaf o'r cyfle."