Galw ar Gyngor Gwynedd i roi stop ar daliadau i Ystad y Goron

"Dwi’n teimlo’n gryf y dylwn ni atal y taliadau yma am y tro a dechrau sgwrs go iawn am ddatganoli rheolaeth tir," medd y Cynghorydd Dewi Jones
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar Gyngor Sir Gwynedd i beidio parhau â thaliadau i Ystad y Goron nes bod trafodaethau’n dechrau ar ddatganoli’r cyfrifoldeb dros hynny.
Llynedd fe dalodd Cyngor Sir Gwynedd dros £160,000 i Ystad y Goron er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael mynediad i wahanol ardaloedd yn y sir.
Bydd grŵp o gynghorwyr yn cyflwyno cynnig i’r cyngor ddydd Iau gan ddadlau ei bod yn anfoesol parhau i dalu yn sgil pwysau ariannol mawr.
Mae Ystâd y Goron yn dweud eu bod nhw’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu gwerth ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol i Gymru.

Y Cynghorydd Dewi Jones o Ward Peblig, Caernarfon, sy’n arwain y cynnig.
“Pob blwyddyn 'da ni’n rhoi oddeutu £160,000 i Ystad y Goron er mwyn gallu cael mynediad i’n traethau, a mannau eraill o amgylch y sir.
"I ni, cyngor sir sydd wedi gweld ein cyllideb yn cael ei dorri pob blwyddyn yn nhermau real mae hwnna’n eithaf anfoesol dwi’n meddwl. Yn enwedig wrth i ni wynebu toriadau pellach i wasanaethau wrth i elw Ystad y Goron mwy na dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.
Ychwanegodd: “Dwi’n teimlo’n gryf y dylwn ni atal y taliadau yma am y tro a dechrau sgwrs go iawn am ddatganoli rheolaeth tir, a’r elw sy’n dod oddi wrthyn nhw i Lywodraeth Cymru.”

Mae'r drefn bresennol yn "siom", yn ôl Dylan Llywelyn o Bwllheli
Mae’r arian mae Cyngor Gwynedd yn ei dalu i Ystad y Goron er mwyn sicrhau mynediad cyhoeddus at rannau o arfordir y sir yn amrywio.
Ym Mangor mae’r gost leiaf, sef £35 y flwyddyn i ganiatáu mynediad i flaen traeth y ddinas.
Ym Mhwllheli mae’r gost fwyaf, £144,000 y flwyddyn ar gyfer sicrhau mynediad i ardal yr hafan.
Disgrifiodd Dylan Llywelyn, sy’n enedigol o’r dref, y drefn fel “siom”.
“Pan mae rhywun yn edrych o gwmpas Pwllheli a llawer o drefi eraill mae rhywun yn meddwl, tybed fysa’r arian yna yn gallu bod o ddefnydd i’r gymuned leol?
"A'r ateb ydy bysa, byddwn ni’n gallu elwa ohono fo. Mae’n bechod bod yr arian yn diflannu o yma,” meddai.

Mae Cyngor Gwynedd yn talu dros £140,000 i Ystad y Goron am gael mynediad i draeth Pwllheli
Nid pawb sy’n cytuno, symudodd Pam Parry i Bwllheli dros 40 mlynedd yn ôl.
“Mae Ystâd y Goron yn berchen ar dipyn o dir, ond bod ni’n gwneud y defnydd gorau o’r tir yna dwi’n meddwl bod popeth yn iawn," meddai.
"Mae fel talu rhent, weithiau mae angen iddyn nhw wneud arian er mwyn buddsoddi arian.”
Beth yw Ystad y Goron?
Mae gwerth dros £603 miliwn o dir ar draws Cymru ym meddiant y goron.
Mae hynny’n cynnwys:
65% o arfordir Cymru
Hyd at 12 milltir oddi ar y tir a gwelau afonydd
50,000 erw o dir
250,000 erw o dir mwynol
Unrhyw aur ac arian sy’n cael ei ddarganfod

Mae Dr Elin Jones yn arbenigo ar hanes y frenhiniaeth
“Ystad y goron yw’r tiroedd sy’n eiddo i’r goron – nid i unrhyw frenin neu frenhines yn bersonol,” meddai’r hanesydd Dr Elin Jones.
Ychwanegodd: “Mae’r incwm sy’n dod o’r tir yna yng Nghymru a Lloegr yn mynd tuag at gynnal y Goron a Llywodraeth y Deyrnas Unedig – ac mae canran ohono yn mynd i gynnal y teulu brenhinol yn uniongyrchol.”

Dywed Sam Kurtz mai sgiliau gweithwyr sydd o bwys i gwmnïau nid datganoli Ystad y Goron
Mae rhan o’r cynnig sy’n cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd ddydd Iau yn galw am ddatganoli rheolaeth tiroedd Ystad y Goron, a’r elw sy’n dod oddi wrthyn nhw i Lywodraeth Cymru.
Ond mae’r cynnig yn ddadleuol, yn ôl yr Aelod Seneddol dros orllewin Caerfyrddin a de Sir Benfro Samuel Kurtz.
“Pan dwi’n siarad â chwmnïau sydd am ddod mewn i Gymru – i fuddsoddi mewn diwydiant gwyrdd – dydyn nhw ddim yn sôn am ddatganoli Ystad y Goron," meddai.
"Maen nhw’n sôn am gynllunio a sut allwn ni gyflawni cynllunio yng Nghymru – dod a mwy o bobl gyda sgiliau ychwanegol sydd ei angen yn y diwydiant newydd. Dydyn nhw ddim yn siarad am ddatganoli Ystad y Goron."
Mewn ymateb i gynnig cynghorwyr Gwynedd dywedodd llefarydd ar ran Ystad y Goron ei bod nhw’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod nhw’n creu gwerth ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol, nawr ac yn y tymor hir.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2024
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2024