Tân difrifol wedi bod ar safle ym Mlaenau Ffestiniog

Dechreuodd y tân yn atig y gwesty am 11:09 ac roedd posib gweld fflamau'n saethu trwy do'r adeilad
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr wedi bod yn delio gyda thân difrifol mewn gwesty yng Ngwynedd, pan gafon nhw eu galw allan cyn amser cinio ddydd Sadwrn.
Cafodd tua 30 o ddiffoddwyr eu galw i Westy Queens ym Mlaenau Ffestiniog am 11:09 ac ar un adeg roedd chwe chriw tân yno.
Roedd pump o'r criwiau hynny'n dal ar y safle ddiwedd y prynhawn ac roedd y Stryd Fawr yn parhau i fod ar gau wrth i'r gwasanaethau brys ddelio gyda'r digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân nad oedd unrhyw un wedi cael ei anafu, ond bod gwneud cyfrif o bawb oedd yn yr adeilad wedi cymryd amser.

Roedd chwe chriw tân yn ymateb i'r digwyddiad ar un adeg
Dechreuodd y tân yn atig y gwesty am 11:09 ac roedd posib gweld fflamau'n saethu trwy do'r adeilad - sy'n dyddio'n ôl i 1867.
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu'r Gogledd yn cynnal ymchwiliad ar y cyd.
Y cyngor i bobl ydy i osgoi'r ardal ac i drigolion gadw eu drysau a'u ffenestri ar gau oherwydd y mwg sylweddol.
Cafodd y gwesty ei adnewyddu'n helaeth gan Punch Taverns yn 2012 cyn i bobl fusnes leol gymryd yr awenau yn 2020.