Bod ar ddialysis fel bod 'mewn carchar'

Paul Evans a Richard DaviesFfynhonnell y llun, CPD Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Paul Evans (chwith), Cadeirydd CPD Caernarfon, yn dathlu gyda rheolwr y clwb, Richard Davies yn ystod cyfnod llwyddiannus y clwb yn Ewrop eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae bod yn gadeirydd clwb pêl-droed yn Uwch Gynghrair Cymru yn waith caled ond i Paul Evans mae hefyd yn tynnu ei feddwl i ffwrdd o'i salwch.

Mae Paul, sy'n byw yn Waunfawr, yn gadeirydd ar CPD tref Caernarfon, sydd wedi cael blwyddyn gofiadwy iawn ar y cae'r flwyddyn ddiwethaf.

Am y tro cyntaf yn hanes y clwb, fe wnaethon nhw gystadlu yn Ewrop, a Paul, o ganlyniad i'w iechyd yn colli allan ar drip tramor.

Mae pob galwad ffôn i'w gartref yn cael ei ateb gyda'r gobaith mai meddygon sydd ar y pen arall yn cynnig dyddiad iddo am ei ail drawsblaniad aren.

Mae'r disgwyl yn rhwystredig ac yn anodd, ond mae Paul yn byw mewn gobaith ac yn dal i frwydro.

A hithau'n wythnos rhoi organau ym Mhrydain, dyma stori ryfeddol Cadeirydd CPD Caernarfon, a'i frwydr i oroesi salwch sydd "fel bod yn sownd mewn carchar".

Angen aren newydd

1995 oedd y flwyddyn pan sylweddolodd Paul fod rhywbeth o'i le gyda'i iechyd.

Daeth diagnosis fod ganddo gyflwr polycystic ar ei arennau ac angen trawsblaniad.

Bryd hynny cafodd aelodau o deulu Paul, gan gynnwys ei dad a'i wraig, brofion i weld os oedden nhw'n gymwys i roi un o'u harennau i Paul.

Ar ôl 3 mis o driniaeth dialysis, yn 2009 cafodd Paul aren gan ei dad, ac roedd hynny yn adfywiad enfawr iddo allu "dechrau byw eto".

Ond gyda phob trawsblaniad, mae 'na risg fod yr aren newydd ond yn para' ychydig flynyddoedd cyn colli effaith.

"Ro'n i'n gwybod mai ychydig flynyddoedd oedd gen i gyda'r aren yma ac yn 2021 dyma fi'n dechrau teimlo'n sâl eto," meddai.

"Ges i fwy na 11 mlynedd allan o aren ges i gan fy nhad ac o'n i'n gwybod yn syth y baswn i'n gorfod mynd yn ôl ar ddialysis.

Ffynhonnell y llun, Paul Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Paul lawdriniaeth trawsblaniad aren gan ei dad yn 2009

"Erbyn rŵan ro'n i'n Gadeirydd Caernarfon.

"Ro'n i wedi bod yn aelod o'r bwrdd ers 2010 ac wedi cyfnod fel is-gadeirydd, camu i mewn i'r rôl yn barhaol yn 2020.

"Roedd o'n anrhydedd â deud y gwir, dwi wedi bod yn mynd i wylio'r clwb ers yr 80au ac wedi disgyn mewn cariad yn llwyr. Ond mae bod yn Gadeirydd yn gyfrifoldeb dwi yn ei gymryd o ddifri."

Ers gwybod fod rhaid iddo fynd yn ôl i dderbyn triniaeth dialysis a mynd ar y rhestr aros am drawsblaniad arall, mae bywyd Paul yn cylchdroi rownd amserlen ei driniaeth.

Bob bore Llun, Mercher a Gwener mae'n rhaid iddo fynd i'r ysbyty yn Nhremadog i dderbyn triniaeth.

"Dwi yno am 7am ac yn gorwedd yn llonydd am bedair awr yn derbyn y driniaeth, cyn dod adre ac yn mynd i weithio yn fy swydd," meddai.

Mae Paul yn gweithio i Gymdeithas Tai, Adra. Mae'n canmol ei gyflogwr sydd yn "ffantastig hefo fi ac yn deall fy sefyllfa yn iawn".

Yn ogystal â chyflawni ei oriau gwaith, mae hefyd yn cyflawni tua 25 awr yr wythnos o waith fel cadeirydd Caernarfon.

'Edrych ymlaen at ddydd Sadwrn'

"Mae'n waith caled, ond mae cadw fy hun yn brysur yn tynnu fy meddwl i ffwrdd o'r salwch 'ma.

"Dwi'n mynd drwy'r driniaeth yma gyda fy ngolwg ar ddydd Sadwrn, fy hoff ddiwrnod o'r wythnos lle dwi'n cael mynd a chefnogi'r tîm dwi'n ei garu heb orfod poeni am orfod cael triniaeth y diwrnod yna."

Dyw Paul methu teithio'n bell iawn i gemau, felly mae'r rhai oddi cartref yn Ne Cymru yn heriol iawn iddo, gan fod y driniaeth yn un flinedig iawn.

Pan lwyddodd Caernarfon i gyrraedd Ewrop eleni, roedd gan Paul benbleth: Sut oedd o'n mynd i allu mynd i Ewrop i gynrychioli ei glwb fe cadeirydd?

"Nes i fethu gallu mynd i'r draw ym mhencadlys UEFA yn Nyon, Swistir ac roedd hynny yn dorcalonnus i ddeud gwir.

"Roedd Richard y rheolwr yno ac fe ddyliwn i fod wedi bod yno hefyd yn cynrychioli'r clwb ond do'n i methu teithio.

"Ro'n i'n gwylio'r peth adra ar fy laptop a phan ddaeth Cliftonville o Ogledd Iwerddon allan o’r het, roeddwn wrth fy modd ac roedd cyfle i mi allu mynd.

"Ar ôl siarad efo'r consultant ges i ganiatâd i fynd i Belfast efo 450 o'r Cofi Army ac roedd y trip yna yn un bythgofiadwy," meddai.

Fe enillodd Caernarfon y gêm a thrip i Wlad Pwyl i wynebu Legia Warsaw oedd nesa. Ond yn anffodus dyna ddiwedd y daith i Paul.

"Roedd teithio i Wlad Pwyl yn ormod a do'n i methu cymryd y risg o ran fy iechyd. Dyna sy'n niwsans am y salwch yma. Does dim modd trefnu mynd ar wyliau i nunlle achos 'ma rhaid i fi fod adre i dderbyn triniaeth, mae fel byw mewn carchar," meddai.

Ffynhonnell y llun, Paul Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Paul ganiatâd meddygol i deithio i Belfast gyda'i wraig Valmai i wylio Caernarfon yn chwarae yn Ewrop

Dyw'r salwch nid yn unig yn effeithio ar Paul ond hefyd ei deulu.

"Dydan ni methu mynd yn bell iawn o adre achos dwi'n gorfod cael dialysis," meddai.

"Dwi wedi dewis peidio cael peiriant dialysis adre achos dwi ddim eisiau i fy ngwraig, Valmai na fy mhlant, Iwan a Sion fy ngweld yn mynd drwy'r driniaeth o orfod rhoi pinnau yn fy mraich dair gwaith yr wythnos.

"Tydi o ddim yn beth braf iddyn nhw orfod ei weld felly mae'n well gen i fynd i'r ysbyty a pharcio'r driniaeth yn fan 'na a pheidio dod â fo adre efo fi."

Ar ben hyn i gyd cafodd Paul ergyd arall ym mis Medi 2021 pan gafodd diagnosis o ganser y croen.

"Nes i fynd i apwyntiad a 'nath 'na ddoctor sylwi ar ddau lwmp ar dop fy mhen, daeth i'r amlwg mai cancr oedd y ddau felly roedd rhaid i mi dynnu'r rheiny a chael triniaeth.

"Roedd hynny yn ergyd arall ar ben popeth oedd yn digwydd.

"Unwaith eto nes i ddod drwyddi ac roedd pêl-droed yn lot o help ar y pryd i dynnu fy meddwl oddi ar bethau," meddai.

Ffynhonnell y llun, Paul Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul yn ddiolchgar iawn o'r gefnogaeth mae'n ei gael gan ei deulu

Ar hyn o bryd mae Paul ar restr aros i ddisgwyl am aren newydd.

Er gwaetha'r ffaith fod ei wraig wedi profi'n gymwys i roi aren iddo, nid yw Paul eisiau rhoi ei wraig drwy driniaeth o'r fath.

"Fyswn i byth yn maddau i fi fy hun os base unrhyw beth yn digwydd i Valmai, neu sefyllfa yn codi os fysa'r wraig yn mynd yn sâl o ganlyniad, felly mae'n well gen i aros am aren newydd," meddai.

Mae Paul wedi bod ar y rhestr aros am drawsblaniad arall ers blynyddoedd, ac fe all gael galwad ffôn unrhyw eiliad yn dweud fod cyfle wedi codi iddo gael llawdriniaeth arall.

"Mae'n gyfnod poenus ac anodd. Pob tro mae'r ffôn yn canu mae rhyw elfen bach ohona i'n gobeithio mai'r ysbyty sydd yna yn cynnig slot i mi neu i ddeud fod 'na match wedi cael ei ffendio i roi aren i mi," meddai.

"Dyna yw fy mywyd, dialysis drwy'r wythnos a phêl-droed ar ddyddiau Sadwrn."

Ffynhonnell y llun, Paul Evans
Disgrifiad o’r llun,

Paul yn dathlu ennill y gêm yn erbyn Penybont wnaeth sicrhau fod Caernarfon yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes

Er gwaethaf y salwch mae Paul hefyd yn ystyried ei hun yn lwcus i gael digon o gefnogaeth ac yn cael bod yn gyfrifol am glwb sydd mor agos at ei galon.

"Mae pawb yn grêt, o'r teulu, i'r cefnogwyr, cyd-aelodau'r bwrdd y nyrsys a'r doctoriaid a fy nghyflogwyr.

"Mae'n salwch anodd iawn, ond fyswn i byth yn gallu ymdopi heb y gefnogaeth yna.

"Alla i ddim deud faint mae cael bod yn Gadeirydd Caernarfon yn helpu i dynnu fy meddwl oddi ar bethau a dwi eisiau gwneud y gorau galla i dros y clwb," meddai.

Yn sicr mae'r cyfnod diweddar wedi bod yn un llwyddiannus a chyffrous i'r clwb, ac mae Paul yn cymryd pob diwrnod fel mae'n dod.

Mae'n edrych ymlaen at ddyfodol CPD Caernarfon ac yn benderfynol o fod yn rhan o hynny.

Ond fesul diwrnod, awr ac eiliad, mae'n gobeithio mai'r alwad ffôn nesa fydd honno gan yr ysbyty, ac un fydd yn rhoi gwedd newydd iddo ar fywyd.

Pynciau cysylltiedig