Merch 10 oed wedi darganfod olion deinosor ger Caerdydd

Tegan yn edrych ar ôl-troed dinosor ar draeth yn ne Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Do'n i ddim yn disgwyl darganfod unrhywbeth o gwbl," meddai Tegan

  • Cyhoeddwyd

Pan aeth Tegan, 10 oed, am dro ar y traeth gyda’i mam ar hyd arfordir de Cymru, doedd hi ddim yn disgwyl darganfod olion traed deinosor.

Ond dyna’n union a ddigwyddodd pan welodd bum marc mawr ar y creigiau ym Mhwynt Larnog ger Caerdydd.

Mae arbenigwyr yn credu y gallai’r olion traed yma fod yn perthyn i Camelotia – creadur anferth a fu’n crwydro’r ardal dros 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r olion troed, sydd tua 75cm i ffwrdd o'i gilydd, wedi denu sylw arbenigwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Dywedodd y paleontolegydd Cindy Howells ei bod “yn weddol sicr” mai olion dinosor yw’r rhain.

“Mae’r patrwm cerdded cyson rhwng y traed chwith a dde yn awgrymu mai rhywogaeth fawr o’r teulu sauropodomorph yw hwn, tebyg i rywogaethau gyda gwddf hir fel brachiosaurus a diplodocus,” eglurodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae lluniau o sut gallai'r Camelotia fod wedi edrych yn brin, ond mae arbenigwyr yn credu ei fod yn debyg iawn i’r Massospondylus, a ddangosir yma

Dywedodd Tegan fod y profiad yn un “gwallgof,” a chysylltodd ei mam, Claire gyda’r amgueddfa yn syth gyda lluniau o’r marciau.

"Oedd o mor cŵl," meddai Tegan, oedd wedi teithio o Bontardawe ger Abertawe er mwyn chwilio am ffosiliau.

"Do'n i ddim yn disgwyl darganfod unrhyw beth o gwbl!"

Roedd Claire wrth ei bodd bod gyda'r darganfyddiad, ac mae'r cyfan wedi ysbrydoli ei merch ifanc sy’n caru deinosoriaid.

“Mae’n anodd credu ein bod ni'n cerdded ar yr un traeth lle'r oedd anifail cynhanesyddol enfawr yn bresennol miliynau o flynyddoedd yn ôl,” meddai.

"Elli di dreulio oesoedd yn chwilio am drysorau deinosor, felly mae gweld hyn yn digwydd i Tegan pan mae hi mor ifanc yn rhyfeddol.”

Ffynhonnell y llun, House 7 Creative
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cindy Howells wedi bod yn cofnodi hanes cynhanesyddol Cymru ers deugain mlynedd

Esboniodd Ms Howells, sydd a 40 mlynedd o brofiad yn astudio paleontoleg yng Nghymru, bod yr olion traed yma, yn ôl pob tebyg, yn perthyn i Camelotia.

Roedd gan y deinosor yma, a grwydrai Ewrop yn ystod y cyfnod Triasig, wddf a chynffon hir ac roedd yn gallu cerdded ar ddwy neu bedair coes.

Er bod esgyrn o ddinosoriaid tebyg wedi’u darganfod yn ardal Bryste, mae’r darganfyddiad hwn yn cryfhau’r dystiolaeth gynyddol bod deinosoriaid yn byw yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw.

Mae Pwynt Larnog, traeth ger Penarth, lle darganfuwyd yr olion, eisoes yn safle adnabyddus am ei hanes cynhanesyddol.

Mae darganfyddiadau diweddar, gan gynnwys sgerbwd llawn o’r Dracoraptor - sy'n perthyn i'r T-Rex - yn 2014 ac olion traed a ddarganfuwyd gan blentyn pedair oed yn 2021, yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr ardal ar gyfer astudiaethau paleontolegol.

"Tan yn ddiweddar, doedden ni ddim yn meddwl bod llawer o ddeinosoriaid yma, ond erbyn hyn mae darganfyddiadau’n digwydd bob ychydig flynyddoedd,” meddai Ms Howells.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o sut mae paleontolegwyr yn credu y gallai Cymru fod wedi edrych yn ystod y cyfnod Triasig

Mae’r ardal yn enwog am ei ddaeareg triasig, pan yr oedd Cymru’n ymdebygu i anialwch poeth.

Dros amser, wrth i lefel y môr godi, fe newidiodd yr amgylchedd i fod yn fwy ffafriol i fywyd gwyllt.

“Roedd Cymru tua 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn debyg i’r dwyrain canol heddiw,” eglurodd Ms Howells.

Y cam nesaf yn y broses yw cadarnhau’r olion drwy ymchwil bellach ac mae Ms Howells yn paratoi adroddiad i’w rannu gyda chyd-arbenigwyr.

Pwysleisiodd Ms Howells pwysigrwydd darganfyddiadau gan aelodau’r cyhoedd, gan nad oes gan yr amgueddfeydd yr adnoddau i archwilio popeth eu hunain.

Mae’r Gymdeithas Ddaearegol yn cynghori chwilio am olion ar ôl llanw uchel pan fydd dŵr yn aros yn y gwaddodion, gan wneud yr ôl-troed yn haws i'w weld.

Pynciau cysylltiedig