Dedfrydu mam am guddio cyrff babanod a aned yn farw

Cafodd Eglė Žilinskaitė (chwith) ddedfryd o ddwy flynedd, wedi'i gohirio am ddwy flynedd
- Cyhoeddwyd
Cafodd cyrff dau fabi eu canfod ar ôl i'r heddlu sylwi ar "oglau drwg" wrth chwilio tŷ ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae llys wedi clywed.
Clywodd gwrandawiad dedfrydu ddydd Iau fod y ddau gorff, a gafodd eu darganfod mewn cartref yn Heol Maes-y-felin ar stad Y Felin-wyllt yn 2022, yn fabanod gwrywaidd tymor llawn a oedd yn debygol o fod wedi cael eu geni'n farw.
Cafodd Eglė Žilinskaitė, 31 o Stryd Clifton, Caerdydd ddedfryd o ddwy flynedd, wedi'i gohirio am ddwy flynedd.
Roedd Žilinskaitė wedi cyfaddef mewn gwrandawiad y llynedd i guddio genedigaeth plentyn ac atal claddu plentyn.
Cafwyd ei chyn-bartner, Žilvinas Ledovskis, yn ddieuog o'r un cyhuddiadau fis diwethaf.

Cafodd cyrff dau fabi eu canfod mewn tŷ ar stad Y Felin-wyllt ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Clywodd y llys fod Heddlu Gwent wedi chwilio tŷ'r cwpl fel rhan o ymchwiliad i dwyll honedig mewn cysylltiad â chamwerthu dillad a oedd fod ar gyfer elusen.
Sylwon nhw'n syth ar arogl a oedd yn waeth fyny grisiau'r tŷ.
Cafodd y corff cyntaf ei ddarganfod yn yr atig o dan fagiau bin a chynfasau gwely.
Cafodd yr ail ei ddarganfod mewn cyflwr tebyg tu fewn i gwpwrdd tanc ar ôl i swyddogion arbenigol gael eu galw i'r tŷ.
Datgelodd profion fforensig a phost mortem bod y ddau yn frodyr ond ddim yn efeilliaid. Roedd y ddau wedi cael eu geni'n farw ar ôl genedigaeth lawn.
Clywodd y llys mewn gwybodaeth gan y diffynnydd fod y babanod wedi cael eu geni ym mis Awst 2019 a mis Mehefin 2021 pan oedd Eglė Žilinskaitė ar ei phen ei hun yn y fflat.
Nid oedd modd cael achos marwolaeth i'r babanod ond roedd DNA yn dangos mai Eglė Žilinskaitė a Žilvinas Ledovskis oedd y rhieni biolegol.

Dywedodd Matthew Roberts, wrth amddiffyn, fod ei gleient wedi bod yn dioddef o iselder ar adeg y digwyddiadau ac yn "unig".
Dywedodd mewn sgwrs gyda'i chyfreithiwr, ei bod wedi datgelu ei bod wedi geni'r ddau fabi tra roedd hi ar ei phen ei hun yn y fflat a'i bod wedi "mynd i banic".
Ychwanegodd ei bod wedi cadw'r cyrff oherwydd ei bod yn teimlo "cysylltiad emosiynol" â nhw.
Dywedodd ei bod hi'n "fregus" ac yn "ddioddefwr" ei hun ond ei bod bellach wedi cael rhywfaint o "gysur" ar ôl i'r babanod gael eu claddu'n iawn o'r diwedd ym mis Mai eleni.

Roedd pobl wedi bod yn gosod blodau ger y tŷ fel teyrnged i'r babanod
Clywodd y llys nad oedd gan Žilinskaitė unrhyw euogfarnau blaenorol a'i bod wedi'i ddisgrifio fel "person sensitif a chariadus".
Wrth ddedfrydu Žilinskaitė , dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd Clarke ei fod wedi bod yn "benderfyniad bwriadol i beidio â cheisio unrhyw fath o gymorth" gyda'r beichiogrwydd.
Ond ychwanegodd "nad eich bai chi oedd marwolaethau eich plant ac rydych chi wedi dioddef y golled o ddau o blant".
Cafodd y ddynes 31 oed ddedfryd o ddwy flynedd, wedi'i gohirio a bydd yn rhaid iddi ddilyn rhaglen adsefydlu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.