Seiclwr, 72, wedi marw pum wythnos ar ôl gwrthdrawiad

Fe gafodd Brad Craven anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad ym mis Mai
- Cyhoeddwyd
Mae seiclwr wedi marw pum wythnos ar ôl iddo fod mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.
Bu farw Brad Craven, 72, ar 20 Mehefin yn dilyn gwrthdrawiad tra'r oedd ar feic yn ardal Grangetown, Caerdydd, ar 17 Mai.
Mae swyddogion heddlu yn parhau i ymchwilio ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad tua 8:40 fore 17 Mai i gysylltu gyda nhw.
Maen nhw'n dweud mai car Fiat 500 glas oedd y car oedd yn gyrru i'r cyfeiriad arall.
Cafodd dyn 19 oed ei arestio yn dilyn y digwyddiad, ac mae o dan ymchwiliad ar hyn o bryd.
Wrth roi teyrnged i Mr Craven, dywedodd ei deulu ei fod yn "seiclwr hyderus a phrofiadol" a'i fod yn seiclo gyda'i frawd "pan brofodd anafiadau difrifol" yn dilyn y gwrthdrawiad.
"Bydd pawb yn cofio am Brad, gweithiwr cymdeithasol a oedd wedi ymddeol, fel dyn meddylgar a gofalgar iawn a oedd wastad yn rhoi lles eraill o flaen lles ei hunan."