Ynys Manaw i'w gweld o Ynys Môn

Ynys ManawFfynhonnell y llun, Phil Hen
  • Cyhoeddwyd

Ar ddiwrnod clir mewn mannau o orllewin Cymru, mae arfordir Iwerddon a Mynyddoedd Wicklow i'w gweld yn y gorwel.

Ond nid yr ynys werdd yw'r unig wlad Geltaidd i'w gweld o Gymru ar ddiwrnod braf.

Dyma lun trawiadol o Ynys Manaw i'w weld yn glir o Ynys Môn.

Philip Henry Williams (neu Phil Hen) yw'r ffotograffydd a dynnodd y llun. Mae'n wreiddiol o Falltraeth ond yn byw yn Llanddeusant.

“Tynnais y llun hwn o ben Mynydd Parys gan ddefnyddio lens 800mm," meddai Phil.

'Aer clir Môn'

Mae Phil wedi bod yn tynnu lluniau ers sawl blwyddyn gyda'r cyfan yn dechrau pan yn felinydd ym Melin Llynon.

“Y dyddiau hyn rwy'n tynnu lluniau mewn llawer o ddigwyddiadau gan gynnwys digwyddiadau elusennol.

“Mae Ynys Manaw i’w gweld yn rheolaidd ac mae hynny’n arwydd bod ansawdd yr aer yn dda ar Ynys Môn."

Gobeithio y bydd yr aer ar yr ynys yn parhau i fod mor glir yn y dyfodol fel ein bod yn gallu gweld yr olygfa hyfryd yma o'n cymdogion Celtaidd eto.

Pynciau cysylltiedig