Amau gwenwyn bwyd ar ôl i 52 o bobl fynd yn sâl

Mae'r achosion yn cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â gwesty Cwrt Henllys ger Cwmbrân
- Cyhoeddwyd
Mae 52 o bobl wedi dweud eu bod yn sâl yn dilyn yr hyn sy'n cael ei amau o fod yn achos o wenwyn bwyd mewn gwesty.
Mae tîm iechyd amgylcheddol Cyngor Torfaen, gyda chymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi bod yn ymchwilio i'r achosion - sy'n gysylltiedig â gwesty Cwrt Henllys ger Cwmbrân.
Gallai'r salwch hefyd fod wedi'i achosi gan feirws.
Dywedodd rheolwr y gwesty eu bod wedi'u "llorio" gan yr adroddiadau a'u bod wedi gweithio'n "gyflym" i ddod o hyd i atebion.
Dywedodd y cyngor nad ydyn nhw'n credu bod unrhyw un o'r 52 angen triniaeth ysbyty.
'Dim cyngor i gau'r gegin'
Dechreuodd pobl fynd yn sâl y diwrnod ar ôl ymweld â gwesty Cwrt Henllys am ginio dydd Sul ar 5 Hydref.
Er bod y salwch yn cael ei amau o fod yn wenwyn bwyd, nid ydy'r achos wedi cael ei gadarnhau hyd yma.
Mae profion yn parhau i gael eu cynnal i weld os oedd y salwch yn gysylltiedig â bwyd, neu ffactor arall - fel feirws.
Dywedodd rheolwr y gwesty fod rhai o aelodau staff y gwesty hefyd wedi mynd yn sâl, er nad oedden nhw wedi bwyta unrhyw fwyd a gafodd ei baratoi y diwrnod hwnnw.
Dywedodd y gwesty eu bod wedi cydymffurfio gyda'r rheolau iechyd amgylcheddol a bod un broblem - sy'n gysylltiedig gydag oeri bwyd - wedi'i chywiro ers hynny.
Maen nhw'n pwysleisio nad ydy'r gwesty wedi cael cyngor i gau'r gegin ar unrhyw adeg.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 9 Hydref eu bod yn darparu cyngor a chymorth, gan ychwanegu nad oedd unrhyw risg ehangach i iechyd y cyhoedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.