Dyn wedi dioddef anafiadau difrifol ar ôl taro llain ganol ar yr A55

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y slipffordd ger cyffordd 32
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55 yn Sir y Fflint.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i wrthdrawiad yn ymwneud â Vauxhall Astra llwyd yn ardal Helygain am 14:14 dydd Sadwrn.
Fe wnaeth y gyrrwr daro'r llain ganol wrth iddo ymuno â'r A55 tua'r dwyrain o gyffordd 32.
Cafodd ei gludo mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty yn Stoke ble mae'n parhau i dderbyn triniaeth.
Mae Sarjant Leigh McCann o'r Uned Troseddau Ffyrdd bellach yn apelio am dystion.
Dywedodd: "Rydym yn apelio at unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a allai fod â lluniau dashcam o'r digwyddiad, i gysylltu â ni."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.