Lluniau: Ironman Cymru 2024

Yr emosiwn o groesi'r llinell gyntaf ar ôl ras mor galed - Anna Lawson oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y merched
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth dros 2,000 o bobl gystadlu yn Ironman Cymru 2024 ar 22 Medi yn y ras hynod heriol sy’n mynd drwy rai o ardaloedd prydferthaf Cymru.
Gan gychwyn yn nhref liwgar Ninbych-y-pysgod, rhaid nofio 2.4 milltir yn y môr, seiclo 112 milltir o amgylch cefn gwlad Sir Benfro, a gorffen drwy redeg marathon llawn 26 milltir.
Llongyfarchiadau i bawb wnaeth fentro, ac yn enwedig enillwyr eleni - Pete Dyson ac Anna Lawson.

Rhai o'r 2,400 o gystadleuwyr Ironman Cymru 2024 yn ystod rhan gynta'r ras - nofio 2.4 milltir yn y môr ger Dinbych-y-pysgod

Gyda'r nofio drosodd, rhaid rhedeg i'r safle trawsnewid cyntaf - ac at y beiciau

Ail gymal y ras ydi 112 milltir ar y beic ar hyd ffyrdd cefn gwlad Sir Benfro gan fwynhau rhai o olygfeydd gorau Cymru





Mae'r ras wedi dod yn boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf gyda thorfeydd mawr yn dod i gefnogi

Ar ôl y beicio, ymlaen i'r cymal olaf - rhedeg marathon llawn 26 milltir


Pete Dyson yn dathlu gyda'r dorf wrth gyrraedd y llinell derfyn i gipio gwobr ras y dynion mewn naw awr, 34 munud a 24 eiliad

Anna Lawson yn croesi'r llinell derfyn i ennill ras y merched. Ei hamser buddugol oedd 10:35:30
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2023
- Cyhoeddwyd19 Awst 2024