Heddlu'n ymchwilio wedi i gorff gael ei ganfod yng Nghaernarfon

Roedd gan yr heddlu bresenoldeb amlwg yn ardal Porth yr Aur fore Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod yng Nghaernarfon.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn ardal Stryd yr Eglwys toc wedi 07:00 fore Mawrth.
Dywedon nhw fod hynny yn dilyn adroddiadau bod "corff wedi ei ganfod yn y dŵr".
Roedd gan y llu bresenoldeb amlwg yn ardal Porth yr Aur fore Mawrth.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth, a bod y crwner wedi cael gwybod.