Fflamau 'hyd at 30 troedfedd' wrth i griwiau daclo tân cychod camlas

Aeth tri chwch camlas ar dân yn Sir Fynwy bore dydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr wedi bod yn taclo fflamau "rhwng 20 a 30 troedfedd" wrth i gychod camlas fynd ar dân yn Sir Fynwy.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i ardal Gofilon tua 11:16 ble ddaethon nhw o hyd i dri chwch camlas ar dân.
Roedd criwiau tân o Frynmawr a'r Fenni yn brwydro'r fflamau yn ogystal â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dywedodd un tyst, Katherine Skallon ei bod yn gallu gweld "mwg du yn codi'n uchel uwchben y clwb cychod, gyda rhai fflamau rhwng 20 a 30 troedfedd".
Ychwanegodd nad oedd hi'n credu bod y clwb cychod wedi cael ei ddifrodi a'i fod yn edrych fel bod y tân bellach dan reolaeth.
Mae modd cael mynedfa i'r clwb oddi ar Ffordd Blaenafon ac felly mae'n llwybr poblogaidd i gerddwyr a thwristiaid.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.