Arestio dyn 18 oed wedi gwrthdrawiad angheuol A483

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483 yng Nghei'r Trallwng
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 oed wedi ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ger Y Trallwng, Powys ddydd Sadwrn.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i wrthdrawiad rhwng Volkswagen porffor a char Mini gwyn ar yr A483 yng Nghei'r Trallwng tua 18:50.
Bu farw gyrrwr y Mini yn y lleoliad, ac mae teulu'r unigolyn wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth.
Cafodd un o deithwyr y Volkswagen ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau sy'n peryglu ei fywyd.
Cafodd teithiwr arall a gyrrwr y Volkswagen eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu eu bywydau.
Mae'r dyn 18 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.