Prifysgol Abertawe yn sicrhau statws Prifysgol Noddfa

Prifysgol AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r statws yn cydnabod cefnogaeth Prifysgol Abertawe at bobl sydd wedi gorfod ffoi rhag gwrthdaro

  • Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i sicrhau statws Prifysgol Noddfa - statws sy'n cydnabod eu cefnogaeth at bobl sydd wedi gorfod ffoi rhag gwrthdaro.

Mae'r brifysgol yn cynnig cyfleoedd i bobl sy'n ffoi o'u cartrefi, er mwyn eu galluogi nhw i barhau â'u haddysg mewn amgylchedd cefnogol.

Abertawe oedd y ddinas gyntaf yng Nghymru i gael statws noddfa yn ôl yn 2010.

Nawr, mae rhoddion ariannol gan gefnogwyr a chyn-fyfyrwyr y brifysgol yn golygu ei bod hi'n bosib helpu'r rheiny sydd angen cymorth i barhau â'u hastudiaethau.

Gwenno Ffrancon
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Yr Athro Gwenno Ffrancon fod y cynllun yn "dangos yn glir ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gefnogi'r rheiny sy'n wynebu cyfnodau ofnadwy"

Dywedodd Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol Prifysgol Abertawe, Yr Athro Gwenno Ffrancon, ei fod yn gynllun "cyffrous iawn".

"Rydyn ni wedi cynnig cyfleoedd i dros 50 o fyfyrwyr i ddod yma i astudio am semester, a manteisio ar yr hyn sydd gan y brifysgol i'w chynnig," meddai.

Mae'r brifysgol hefyd wedi gefeillio gyda phrifysgol yn Wcráin, er mwyn cynnig cyfleoedd i'w staff academaidd allu parhau i gael cefnogaeth ymchwil a chyfleoedd i addysgu.

"Ar ben hynny, ni'n cynnig ysgoloriaethau meistr i'r myfyrwyr fel eu bod nhw'n gallu dod yma i astudio," ychwanegodd.

Milad Mirzaee
Disgrifiad o’r llun,

Mae Milad Mirzaee wedi elwa o gynllun tebyg ym Mhrifysgol De Cymru

Mae'r mwyafrif o'r prifysgolion yng Nghymru yn cynnig ysgoloriaethau tebyg ar gyfer pobl sydd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi.

Un sydd wedi elwa o gynllun tebyg gan Brifysgol De Cymru yw Milad Mirzaee, a oedd yn gorfod gadael ei deulu a ffoi o Afghanistan ddwy flynedd yn ôl.

Ym mis Ionawr fe fydd yn graddio ar ôl astudio gradd meistr mewn Peirianneg Fecanyddol.

"Mae'r ysgoloriaeth noddfa yn bwysig iawn, mae'n rhoi cyfle i'r rheiny sy'n chwilio am loches i astudio, pan nad yw hi'n bosib yn ariannol iddyn nhw wneud hynny," meddai.

"I fi'n bersonol, mae'r cynllun wedi bod yn fwy na hwb ariannol, mae wedi fy helpu i dorri'n rhydd o rwystrau fy sefyllfa bersonol i.

"Heb yr ysgoloriaeth, byddwn i wedi gorfod aros gartref. Byddai hynny wedi effeithio arna i'n seicolegol."

Cynnig 'gobaith' i ffoaduriaid

Un sydd wedi helpu gyda'r gwaith o gydlynu cymorth i ffoaduriaid ym Mhrifysgol De Cymru yw'r Athro Mike Chick, sydd hefyd yn pwysleisio'r buddiannau.

"Fel Prifysgol Noddfa, rydym ni'n cynnig gobaith a dynoliaeth - nid rhaniad a chasineb.

"Mae gan ffoaduriaid gymaint o sgiliau a galluoedd i'w cynnig."

Yn y cyfamser, mae'r ymdrechion i geisio sicrhau statws Cenedl Noddfa i Gymru'n parhau.

Mae tua £55m wedi'i wario ar helpu pobl i ymgartrefu yma dros y bum mlynedd diwethaf, gyda'r rhan helaeth wedi'i wario i helpu pobl o Wcráin.

Mae'r Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi'r cynllun, ond mae'r Ceidwadwyr a Reform yn gwrthwynebu'r gost.