Annog pobl i drafod diwedd oes gydag anwyliaid

- Cyhoeddwyd
Mae cyn-ofalwraig sydd bellach â chanser terfynol yn annog pobl i siarad am eu cynlluniau diwedd oes gyda'u hanwyliaid.
Mae'r alwad yn dod yn sgil y ffaith bod elusen Marie Curie wedi canfod nad yw bron traean o bobl yng Nghymru wedi rhoi unrhyw ystyriaeth eto i'w dyddiau olaf.
Mae Diane Thomas, o Gaerfyrddin, a ddaeth o hyd i lwmpyn yn ei bron, tra'n gofalu am ei mam gyda dementia ac nad oedd wedi gweld meddyg am bedair blynedd, yn annog eraill i drafod eu cynlluniau ar gyfer diwedd oes.
Roedd hi wedi symud ei mam, Doreen, oedd â dementia fasgwlaidd, o ogledd Lloegr i'w chartref yn ôl yn 2021 er mwyn gofalu amdani, ond chwe wythnos yn ddiweddarach fe ddaeth o hyd i'r lwmpyn.
Bu farw ei mam yn gynharach eleni ac fe glywodd Diane hefyd bod y canser yn ganser cam 4 ac ers hynny, gyda chymorth yr elusen diwedd oes, Marie Curie, mae hi wedi dechrau paratoi.
Dywedodd Diane: "Dwi di gwneud y ffurflen 'peidiwch â cheisio adfywio', dwi hefyd yn y broses o drefnu atwrneiaeth (power of attorney), dwi'n deall popeth oherwydd imi wneud hyn gyda fy mam, ro'n i'n gwbod bod yn rhaid sortio'r pethau hyn.
"Mae'n bwysig i mi fod y pethau yma yn eu lle, er mwyn i fy mhlant wybod a deall be dwi eisiau," ychwanegodd.
"Roedd yn anodd gwylio fy mam, oherwydd roedd hi'n byw yma gyda fi, yn dod yn llai a llai abl i wneud pethau, a dydw i ddim eisiau bod fel 'na."
Traean o bobl heb ystyried eu diwedd oes

Mae Diane yn rhannu ei stori gan bod yr elusen wedi canfod bod llawer o bobl yng Nghymru heb baratoi'n ddigonol ar gyfer cyfnod olaf eu bywyd.
Mae bron i draean o'r rhai wnaeth ymateb i arolwg Marie Curie heb ystyried eu camau olaf o gwbl, tra bod bron i 4 mewn 10 ddim yn rhoi unrhyw gynlluniau ar bapur.
Mae'r elusen yn dweud bod yr ymchwil yn dangos bod angen agor y sgwrs, gan fod mwy na thraean yn ofni siarad am gynllunio ar gyfer diwedd oes ac eraill yn credu bod ganddynt ddigon o amser i drefnu.
'Rhaid i chi drefnu popeth nawr'
Ym mis Awst, gwelodd Diane ei meddyg yng Nghaerfyrddin, a derbyniodd gadarnhad o'r hyn oedd o'i blaen.
Roedd Diane yn ymwybodol bod y canser "wedi mynd yn rhy bell" ac roedd hi'n "mynnu nad ydw i eisiau unrhyw driniaeth".
"Do'n i ddim eisiau unrhyw chemo na radiotherapy, dwi'n teimlo'n dda ynof fy hun a dwi ddim mewn poen ar hyn o bryd.
"Dwi ddim yn gwybod faint o frys sydd i wneud hyn ai peidio, ond dywedodd y meddyg rhaid i chi drefnu popeth nawr."
"Dyna'r cyfan oedd angen i mi wybod, dydw i ddim eisiau i feddyg ddweud wrthai 'mae gennych chwech mis i fyw', oherwydd mae hynny wedyn yn gysgod ar bopeth.
"Mae fy nwy ferch yn gwybod beth ydi fy nymuniadau.
"Rydyn ni wedi siarad am fy llwch, rydyn ni wedi trafod pethau, mae nhw'n gwybod beth dwi eisiau a beth dydw i ddim eisiau.
"Rwyf wedi dweud 'gallwch chi gyd gael pryd o fwyd neis a dweud hwyl fawr Mam."

Yn ôl Uwch Nyrs Marie Curie, Diane Milner, mae dechrau'r sgwrs am gynllunio diwedd oes yn gallu bod yn heriol i bobl ond mae'n teimlo ei bod yn "sgwrs hanfodol".
Roedd Diane wedi ei rhoi mewn cyswllt gyda Diane Milner, Uwch-nyrs Marie Curie, sy'n rhan o'r gwasanaeth Cynllunio Gofal yn ardal Dyffryn Tywi a Thaf - mae'n gweithio gyda meddygon teulu a chartrefi gofal i helpu pobl lunio eu cynlluniau gofal a diwedd oes.
Dywedodd Diane Milner, a fu'n nyrs rhanbarthol am 32 mlynedd: "Mae cynllunio gofal ymlaen llaw ar gyfer pawb, ar unrhyw gam o'u bywydau yn bwysig.
"Mae'n golygu bod anwyliaid yn gwybod beth ydy eich dymuniadau os na allwch siarad drosoch eich hun.
"Gall fod yn her i deuluoedd ddechrau'r sgwrs, ond fy rôl fel gweithiwr proffesiynol allanol yw sicrhau y gallan nhw deimlo'n gyfforddus wrth drafod pynciau heriol fel hyn.
"Ers cymryd y swydd hon, rwyf wedi sylweddoli gwerth cynllunio yn fy mywyd i fy hun ac rwy'n credu ei bod yn sgwrs hanfodol i'w chael."
Mae elusen Marie Curie wedi paratoi llyfryn, dolen allanol sydd ar gael i gefnogi unrhywun sydd yn ceisio trefnu eu gofal diwedd oes ac mae rhestr wirio, dolen allanol ar eu gwefan.
Mae yna bum categori y dylai pobl eu hystyried: materion cyfreithiol ac ariannol; pobl; anifeiliaid anwes a phethau personol pwysig; angladd neu ddathliad bywyd; a chreu a gadael atgofion.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin

- Cyhoeddwyd14 Mai 2024

- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2021
