Cymeradwyo dyfarniad bod Siân Gwenllian wedi torri cod ymddygiad

Dywedodd Siân Gwenllian ei fod yn "hollol glir" bod angen newid y cod ymddygiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r Senedd wedi cymeradwyo argymhelliad y pwyllgor safonau ymddygiad fod aelod Plaid Cymru wedi torri'r cod ymddygiad.
Cytunodd ASau gyda'r argymhelliad nad oes angen cymryd unrhyw gamau pellach yn erbyn Siân Gwenllian, yr aelod dros Arfon.
Ni fu'n rhaid cynnal pleidlais i gymeradwyo'r argymhelliad, gan nad oedd unrhyw AS yn gwrthwynebu.
Dywedodd Siân Gwenllian ei fod yn "hollol glir" bod angen newid y cod ymddygiad.
"Fel mae'r cod yn sefyll, does gan Aelodau o'r Senedd ddim hawl i amddiffyn eu henw da drwy rannu gwybodaeth berthnasol pan mae'r enw da yn cael ei bardduo," meddai.
"Pan mae honiadau cwbl ddi-sail yn cael eu lluchio allan gan y comisiynydd safonau, mae'r cod yn rhwystro aelod rhag amddiffyn ei hun pan fo'r honiadau rheiny mewn perygl o gael eu lledaenu eto.
"Yn amlwg mae angen newid hynny. Mae hynny yn foesol annheg."
'Cydbwyso mewn modd cymesur'
Penododd y Senedd Melissa McCullough, Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon, i ymdrin â'r gŵyn benodol hon oherwydd ei bod yn ymwneud â llythyr gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd, Douglas Bain.
Dyfynnodd Siân Gwenllian rannau o adroddiad Melissa McCullough a ddywedodd: "Mae cyfrinachedd o fewn y broses gwyno yn hanfodol ac mae iddi ddiben cyfreithiol.
"Fodd bynnag, rhaid cydbwyso hyn mewn modd cymesur mewn perthynas ag Erthygl 10 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy'n diogelu'r hawl i ryddid mynegiant...
"Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod Aelodau yn wynebu anfantais o ran rhyddid mynegiant o gymharu ag achwynwyr nad ydynt yn Aelodau, gan nad yw'r olaf yn atebol yn yr un modd am dorri rheolau cyfrinachedd.
"O ganlyniad, gall fod yn orfodol i Aelodau, yn ôl y Cod, aros yn dawel mewn ymateb i honiadau cyhoeddus gan achwynwyr, y gallai rhai ohonynt eisoes fod wedi'u hasesu a'u hystyried yn annerbyniadwy gan y Comisiynydd, fel yn yr achos hwn."
Meddai Siân Gwenllian: "Roedd gen i ddau ddewis felly, sef aros yn dawel neu dorri'r cod."
Mae'r pwyllgor wedi dweud y bydd yn edrych eto ar y rheolau sy'n ymwneud â chyfrinachedd ac y gallai adolygiad ganiatáu mwy o dryloywder ynghylch pam yr ystyriwyd bod cwyn yn annerbyniol.

Mae'r gweithdrefnau ar hyn o bryd yn "foesol annheg", meddai Siân Gwenllian
Daeth i'r amlwg bod Siân Gwenllian wedi rhannu darnau o lythyr cyfrinachol a anfonwyd gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd, Douglas Bain, at unigolyn oedd wedi cwyno amdani.
Ond roedd pwyllgor safonau ymddygiad y Senedd yn cytuno â'r comisiynydd safonau dros dro bod yr aelod wedi "rhannu'r wybodaeth hon er mwyn amddiffyn ei hun rhag adroddiadau anghywir a oedd yn cael eu gwneud am gwynion annerbyniadwy".
Roedd pwyllgor safonau ymddygiad trawsbleidiol y Senedd - dan gadeiryddiaeth yr Aelod Llafur o'r Senedd, Hannah Blythyn - wedi cytuno y bu achos o dorri'r cod ymddygiad, yn unol â chanfyddiadau'r comisiynydd safonau a benodwyd dros dro.
Roedd y pwyllgor wedi dweud: "Wrth geisio gwrthbrofi honiadau a wnaed mewn perthynas â chwynion eraill, gwnaeth yr aelod ei hun yn anfwriadol yn destun cwyn arall."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl