Siân Gwenllian wedi torri cod ymddygiad Senedd Cymru

"Nid wyf o'r farn bod Ms Gwenllian wedi gwneud hyn am ei bod yn ceisio budd personol ond yn hytrach ei bod yn amddiffyn ei hun yn rhesymol," meddai'r comisiynydd safonau dros dro
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi torri'r cod ymddygiad, yn ôl dyfarniad comisiynydd safonau dros dro y sefydliad.
Ond mae'r adroddiad yn argymell "nad oes angen cymryd unrhyw gamau pellach" yn erbyn Siân Gwenllian, yr aelod dros Arfon.
Daeth i'r amlwg ei bod wedi rhannu darnau o lythyr cyfrinachol a anfonwyd gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd, Douglas Bain, at unigolyn oedd wedi cwyno amdani.
Ond mae pwyllgor safonau ymddygiad y Senedd yn cytuno â'r comisiynydd safonau dros dro bod yr aelod wedi "rhannu'r wybodaeth hon er mwyn amddiffyn ei hun rhag adroddiadau anghywir a oedd yn cael eu gwneud am gwynion annerbyniadwy".
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2024
Yn gynharach y llynedd, fe wnaeth Plaid Cymru ddiarddel Aelod o'r Senedd oedd wedi ei gyhuddo o ymddwyn mewn modd amhriodol ar noson allan.
Cafodd Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, ei wahardd o'r Senedd am chwe wythnos wedi i adroddiad ddod i'r casgliad ei fod wedi cyffwrdd yn amhriodol a rhegi ar ddwy ddynes.
Ym mis Awst 2024, cyhoeddodd gwefan Nation.Cymru bod Siân Gwenllian, cyn-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru a chwip y grŵp yn y Senedd, wedi gwadu iddi geisio cuddio'r digwyddiad.
Yn ôl adroddiad gan y pwyllgor safonau, cyfaddefodd Siân Gwenllian iddi ddatgelu rhan o lythyr cyfrinachol gan y comisiynydd.
Pan ofynnodd Nation.Cymru iddi wneud sylw ar yr honiadau am guddio, cydlynodd Ms Gwenllian ymateb gyda thîm y wasg Plaid Cymru, a gofynnodd am i frawddegau o lythyr cyfrinachol y comisiynydd gael eu cynnwys yn yr ymateb.
Roedd y llythyr, a anfonwyd yn wreiddiol at yr achwynydd, yn egluro rhesymau'r comisiynydd dros ystyried bod cwynion eraill yn ei herbyn yn annerbyniol.
Ysgrifennodd Douglas Bain: "Ni chanfuais unrhyw dystiolaeth o unrhyw guddio yn ystod fy ymchwiliad, roeddwn yn fodlon bod yr aelod wedi delio â'r mater yn unol â phrosesau Plaid Cymru - prosesau oedd ymhell o fod yn foddhaol ar y pryd."
Aeth y llythyr ymlaen i ddweud bod yr achwynydd yn "anghywir" wrth ddweud bod Siân Gwenllian "wedi ymchwilio a diystyru'r gŵyn fewnol cyn i mi roi gwybod iddi am y gŵyn yr oeddwn yn ymchwilio iddi".
Cafodd detholiadau o'r llythyr eu cyhoeddi gan Nation.Cymru.
Mae'r erthygl, erbyn hyn, yn cynnwys nodyn golygydd yn datgan: "Yn y fersiwn wreiddiol o'r erthygl hon dywedwyd bod detholiad o lythyr gan y Comisiynydd Safonau wedi ei ddarparu i Nation.Cymru 'gyda chaniatâd'. Mewn gwirionedd nid oedd y comisiynydd wedi rhoi caniatâd i Blaid Cymru i'r dyfyniad gael ei gyhoeddi".
'Amddiffyn ei hun yn rhesymol'
Penododd y Senedd Melissa McCullough, Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon, i ymdrin â'r gŵyn benodol hon oherwydd ei bod yn ymwneud â llythyr gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd, Douglas Bain.
Daeth y comisiynydd dros dro i'r casgliad, "drwy ddatgelu'r tair brawddeg o lythyr y Comisiynydd, fy marn i yw bod Ms Gwenllian wedi torri Rheol 15(i) o'r Cod Ymddygiad".
"Nid wyf o'r farn bod Ms Gwenllian wedi gwneud hyn am ei bod yn ceisio budd personol ond yn hytrach ei bod yn amddiffyn ei hun yn rhesymol," meddai.
Cytunodd pwyllgor safonau ymddygiad trawsbleidiol y Senedd - dan gadeiryddiaeth yr Aelod Llafur o'r Senedd, Hannah Blythyn - y bu achos o dorri'r cod ymddygiad, yn unol â chanfyddiadau'r comisiynydd.
Dywedodd y pwyllgor: "Wrth geisio gwrthbrofi honiadau a wnaed mewn perthynas â chwynion eraill, gwnaeth yr aelod ei hun yn anfwriadol yn destun cwyn arall."
Wrth ddod i'w benderfyniad, ystyriodd y pwyllgor "y ffaith bod yr aelod yn derbyn ei bod wedi torri'r cod, ac na roddodd awdurdod penodol i ryddhau'r wybodaeth i'w hargraffu".
"Fodd bynnag, wrth rannu darnau o'r llythyr, mae'r aelod yn amlwg wedi torri'r rheolau cyfrinachedd yn y cod ymddygiad".
Dywedodd y pwyllgor y byddai'n edrych eto ar y rheolau sy'n ymwneud â chyfrinachedd - gan ddweud y gallai adolygiad ganiatáu mwy o dryloywder ynghylch pam yr ystyriwyd bod cwyn yn annerbyniol.
Mae disgwyl i'r Senedd gymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad – fod achos o dorri'r cod wedi'i ganfod ond nad oes angen cymryd unrhyw gamau pellach – yn y cyfarfod llawn ddydd Mercher nesaf.