Arestio dau ddyn ar amheuaeth o dreisio yng Nghaerfyrddin

- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ddau honiad o dreisio mewn eiddo yng Nghaerfyrddin rhywbryd dros nos rhwng 12 a 13 Hydref.
Mae dau ddyn, 34 a 23 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o dreisio.
Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau’r heddlu’n parhau.