'Ni ddylai uned Saesneg banc Barclays fod ar y maes'

Uned banc Barclays gydag arwyddion Saesneg yn unig a sticeri Cymdeithas yr Iaith arni
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y banc fod staff sy'n siarad Cymraeg yn gweithio yn yr uned ar y maes

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud na ddylai uned Banc Barclays, fel ag y mae, fod ar faes yr Eisteddfod gydag arwyddion Saesneg yn unig arni.

Dywedodd Dafydd Williams, sy'n is-gadeirydd y gymdeithas, fod hynny'n mynd yn erbyn rheol iaith yr Eisteddfod.

Mae Mr Williams yn dweud fod hyn yn adlewyrchu problem fwy eang gydag agwedd y banciau at yr iaith wrth gau canghennau.

Dywedodd llefarydd ar ran y banc fod staff sy'n siarad Cymraeg ar y maes ac y byddan nhw'n adolygu'r mater ar gyfer y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Williams na ddylai'r uned - gydag arwyddion Saesneg - fod ar y maes fel ag y mae

"Mae uned symudol Barclays yn hollol Saesneg ar y maes," dywedodd Dafydd Williams.

"Ry'n ni'n parchu'r staff sy'n gweithio yno wrth gwrs, ond yn yr Eisteddfod ma' 'na reol Gymraeg a dyle' popeth fod yn Gymraeg."

Mae Mr Williams yn dweud fod hyn yn adlewyrchu problem ehangach: "Mae banciau yn cau canghennau, mae'n anodd wedyn cael gwasanaeth Cymraeg".

Wrth sôn am benodol am wasanaethau teithiol, sy'n llenwi'r bwlch o ran canghennau mewn rhai ardaloedd, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud y dylai bysiau ac unedau symudol fod "o leiaf yn ddwyieithog".

"Mae bysiau cymunedol fel y rhain yn mynd o gwmpas yr ardal, yn gwasanaethu pobl Cymraeg , weithie' mae'r staff yn siarad Cymraeg.

"Ond mae gweld bws ag arwyddion Saesneg drosto fe yn awrgymu i bobl bod nhw ddim yn gallu cael gwasanaeth [Cymraeg]."

'Adolygu ar gyfer y dyfodol'

Mewn ymateb, dywedodd Andrew Mackey, cyfarwyddwr gwasanaeth cwsmeriaid Barclays yng Nghymru: "Mae gennym staff sy yn siarad Cymraeg yn yr Eisteddfod i gefnogi ein cwsmeriaid sydd yn siarad Cymraeg.

"Dyw yr arwyddion ar y fan ar hyn o bryd ddim yn ddwyieithog, ond fe fyddwn yn adolygu hyn ar gyfer y dyfodol.

"Mae gennym ystod o wasanaethau dwyieithog i gefnogi ein cwsmeriaid Cymraeg."

Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod y byddai Pwyllgor Rheol Gymraeg y Brifwyl yn edrych ar y sefyllfa.