HSBC i roi galwad yn ôl yn y Gymraeg o fewn diwrnod

HSBCFfynhonnell y llun, JOE GIDDENS
  • Cyhoeddwyd

Mae banc HSBC yn lleihau’r amser i gwsmer gael galwad yn ôl yn y Gymraeg o dri diwrnod gwaith i un.

Daw hynny wedi iddyn nhw gau eu gwasanaeth ffôn Cymraeg ar 15 Ionawr, ac yn ei le gynnig galwad yn ôl o fewn tridiau i siaradwyr Cymraeg.

Yn dilyn adolygiad, dywedodd y banc: "Rydym yn lleihau'r cyfnod hiraf ar gyfer galwad yn ôl o dri diwrnod gwaith i'r diwrnod gwaith nesaf."

Ond dywedodd Cymdeithas yr Iaith "bod gwasanaethau Cymraeg HSBC dal ymhell o fod yn gyfartal i’w gwasanaethau Saesneg".

14 galwad y diwrnod

Ers cau'r llinell ffôn, mae HSBC yn dweud eu bod wedi cael cyfartaledd o 14 o alwadau y diwrnod i rif y llinell Gwasanaeth Cymraeg.

Ond dim ond cyfanswm o 17 o geisiadau am alwad yn ôl a gafwyd.

Yr amser cyfartalog i gysylltu yn ôl â chwsmer yw 1 awr 19 munud.

Yr alwad yn ôl gyflymaf oedd 10 munud, a chymerodd yr hiraf 4 awr 30 munud "oherwydd gwyliau cyhoeddus".

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae "adborth cwsmeriaid wedi bod yn gadarnhaol" ers cyflwyno'r gwasanaeth galw yn ôl, meddai José Carvalho

Mewn llythyr at Delyth Jewell AS, cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, a'r Gymraeg Senedd Cymru, dywedodd un o benaethiaid HSBC, José Carvalho: "Mae gennym bellach yr hyder i leihau'r amserlen trwy ein profiadau o'r chwarter cyntaf."

Mae'n honni bod "adborth cwsmeriaid wedi bod yn gadarnhaol" ers cyflwyno'r gwasanaeth galw yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

"Dim ond rhan o’r broblem yw’r gwasanaeth ffôn," meddai Siân Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith

Ond dywedodd Siân Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith: “Dydy’r cyhoeddiad yma ddim yn golygu llawer o ddim byd, gan fod rhwystrau mewn lle o hyd, sy’n golygu bod gwasanaethau Cymraeg HSBC dal ymhell o fod yn gyfartal i’w gwasanaethau Saesneg.

"Rydyn ni wir yn gobeithio nad yw HSBC yn disgwyl i gwsmeriaid fod yn ddiolchgar am hyn.

"A dim ond rhan o’r broblem yw’r gwasanaeth ffôn. Does dim gwasanaeth Cymraeg o gwbl ar-lein nac ar ap y banc, chwaith.

“Y broblem sylfaenol - fel gafodd ei amlygu yn achos llys diweddar y cwmni parcio One Parking Solution yn erbyn Toni Schiavone - yw nad oes dim byd yn y ddeddfwriaeth bresennol sy’n gwarchod hawliau siaradwyr Cymraeg yn y sector breifat, waeth beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud yn gyhoeddus am statws swyddogol, cyfartal i’r iaith.”