Cau gwasanaeth ffôn Cymraeg HSBC yn 'siom aruthrol'

  • Cyhoeddwyd
HSBC signFfynhonnell y llun, Joe Giddens

Mae banc HSBC wedi cyhoeddi ei fod yn dirwyn gwasanaeth ffôn iaith Gymraeg i ben yn y flwyddyn newydd.

Mewn llythyr dywedodd y banc "nad oedd yn benderfyniad a wnaed yn ysgafn", ond fod y galw am y gwasanaeth wedi lleihau dros amser.

Gyda'r gwasanaeth i ddod i ben fis Ionawr, ar ôl hynny bydd ond modd cysylltu â'r banc yn Saesneg.

Yn ôl HSBC dydy'r gwasanaeth Cymraeg ond yn derbyn 22 galwad y dydd, o'i gymharu â 18,000 i'r gwasanaethau Saesneg.

Ond mae'r penderfyniad wedi ei farnu gan wleidyddion, sydd wedi ei ddisgrifio fel "siom aruthrol".

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles y byddai'n trafod y mater gyda Chomisiynydd y Gymraeg, sydd eisoes wedi ysgrifennu at HSBC.

'Ffonio unwaith neu ddwywaith y flwyddyn'

Yn 2021 bu i'r banc lansio ymgyrch i helpu staff i ddysgu Cymraeg, gyda'r gwasanaeth presennol ar gael rhwng 08:00-20:00 bob dydd, dolen allanol.

Ond mewn llythyr i Aelodau o'r Senedd dywedodd HSBC na fyddai bellach yn cynnig llinell ffôn Cymraeg ei hiaith o 15 Ionawr 2024.

"Rydym yn ymdrechu i deilwra ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid, ac ar ôl adolygiad manwl o'n llinell ffôn gwasanaeth cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg, rydym wedi canfod nad yw'r llinell hon bellach yn cael ei defnyddio'n llawn", medd y banc.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Sam Kurtz, wedi beirniadu penderfyniad y banc

"Rydym wedi gweld gostyngiad cyson yn y defnydd - rydym yn derbyn 22 o alwadau i'r llinell bob dydd, o'i gymharu â 18,000 i'n llinellau Saesneg, ac mae 73% o ddefnyddwyr gwasanaeth yn ffonio unwaith neu ddwywaith y flwyddyn yn unig.

"Bydd ein hasiantau Saesneg eu hiaith yn gallu cynorthwyo gydag unrhyw anghenion bancio cwsmeriaid.

"Rydym yn cydnabod mai bancio yn y Gymraeg yw eu dewis o hyd i rai cwsmeriaid, felly gallwn drefnu galwad yn ôl yn Gymraeg, o fewn tri diwrnod gwaith, i helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.

"Er ein bod yn deall nad dyma yw eu dewis cyntaf, rydym wedi cadarnhau bod pob cwsmer yn gallu bancio yn Saesneg."

'Erfyn ar HSBC i ailystyried'

Yn ôl yr Aelod o'r Senedd Sam Kurtz, mae penderfyniad HSBC "yn siom aruthrol".

"Gyda banciau'r stryd fawr yn cau eu canghennau, gan adael tyllau yn ein stryd fawr, mae bancio ffôn wedi bod yn achubiaeth i nifer o gwsmeriaid.

"Mae'r cynnig o wasanaeth 'galw'n ôl', a allai gymryd hyd at dri diwrnod, i'r rhai sydd eisiau defnyddio'r Gymraeg yn ddim ond arwyddlun gan fanc a oedd ar un adeg yn honni ei fod yn 'fanc lleol y byd'.

"I fanc sy'n gweithredu'n fyd-eang mewn nifer o ieithoedd, rwy'n erfyn ar HSBC i ailystyried eu penderfyniad ac i gadw'r ddarpariaeth Gymraeg ar gael i gwsmeriaid yn ôl yr angen."

Disgrifiad o’r llun,

Jack Sargeant: "Mae cau canghennau eisoes wedi cyfyngu ar wasanaethau Cymraeg i gwsmeriaid yng Nghymru"

Gyda HSBC eisoes wedi cau 12 cangen yng Nghymru eleni, mae AS Alun a Glannau Dyfrdwy, Jack Sargeant, hefyd wedi galw ar y banc i "wyrdroi'r penderfyniad hwn ar unwaith".

Ychwanegodd y bydd yn ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg, Jeremy Miles a Chomisiynydd y Gymraeg yn gofyn iddynt gymryd camau i ymyrryd.

"Mae cau canghennau eisoes wedi cyfyngu ar wasanaethau Cymraeg i gwsmeriaid yng Nghymru a bydd hyn yn cyfyngu ar eu profiad bancio hyd yn oed ymhellach", meddai.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg, Heledd Fychan AS, a llefarydd yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan, Ben Lake AS, fod y llinell Gymraeg yn "adnodd hollbwysig".

"Mae nifer o gwsmeriaid yn defnyddio HSBC oherwydd eu gwasanaeth Cymraeg, ac mae'n wir i ddweud nad yw'r banc wedi gwneud digon i'w hyrwyddo.

"Mae hyn yn ergyd enfawr i'w cwsmeriaid yng Nghymru yn enwedig eu cwsmeriaid hŷn, a'r rhai sydd ddim â mynediad i dechnoleg ddigidol.

Disgrifiad o’r llun,

Mewn datganiad ar y cyd gyda Ben Lake AS dywedodd Heledd Fychan fod y llinell Gymraeg yn "adnodd hollbwysig".

"Mae addewid y banc i 'drefnu galwad yn ôl yn Gymraeg, o fewn 3 diwrnod gwaith' nid yn unig yn ansensitif i'r pwysau ariannol y bydd rhai pobl yn eu hwynebu, ond hyn yn beryglus.

"I lawer, nid 'dewis' yw cael mynediad i'w banc trwy'r Gymraeg - mae'n anghenraid."

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Rwy'n siomedig iawn o glywed y newyddion yma. Mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn flaenoriaeth i mi, ac rwyf am i ni gael cynifer o gyfleoedd â phosibl i ddefnyddio'r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd.

"Byddaf yn trafod y mater hwn gyda Chomisiynydd y Gymraeg, sydd eisoes wedi ysgrifennu at HSBC, i weld beth y gellir ei wneud i sicrhau bod y gwasanaeth Cymraeg yn parhau, a'i fod yr un mor hawdd ei gyrchu yn y ddwy iaith."

Mae'r banc yn dweud y byddan nhw'n cefnogi cwsmeriaid sy'n galw'n aml neu sy'n fregus i'w hysbysu o'r newidiadau ac esbonio sut y gallant barhau i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig