Cwmni seidr mwyaf Prydain yn torri perllan Gymreig

Llun o'r berllan o'r awyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae miloedd o goed wedi eu torri ar draws y berllan

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni seidr mwyaf y Deyrnas Unedig wedi torri perllan Gymreig - maint 140 o gaeau pêl-droed - sy'n gynefin adar ar lwybr Clawdd Offa.

Yn ôl Heineken, gormod o afalau seidr a gostyngiad yn y farchnad seidr yw’r rheswm dros ddadwreiddio miloedd o goed ym Mherllan Penrhos yn Sir Fynwy.

Mae amgylcheddwyr lleol yn pryderu am yr effaith ar boblogaethau adar mudol a bioamrywiaeth yn yr ardal.

Dywedodd y cwmni eu bod wedi cydymffurfio â'r Ddeddf Bywyd Gwyllt a'u bod yn bwriadu gwerthu'r tir.

Mae'r trigolion lleol yn dweud eu bod yn "drist" ac yn "siomedig" bod y coed wedi mynd, er bod un wedi dweud ei fod wedi gwella golygfa'r bryniau o gwmpas.

Disgrifiad,

Dyma sut mae Perllan Penrhos yn edrych erbyn hyn

'Anochel' fydd colled mawr i natur

Mae’r ecolegydd Chris Formaggia wedi treulio blynyddoedd lawer yn cerdded gyda’i blant ar lwybrau troed trwy'r berllan, a gafodd ei phlannu ym 1997.

Mae wedi monitro'r defnydd o'r safle gan adar amrywiol, ac mae'n bryderus am effaith torri'r coed.

"Ar hyn o bryd byddai'r coed i gyd yn eu blodau llawn. Byddai'n faes hynod drawiadol. Mae'r newid nawr yn un llwyr," meddai.

Ffynhonnell y llun, Chris Formaggia
Disgrifiad o’r llun,

Plant Chris Formaggia yn chwarae ym Mherllan Penrhos yn 2011

Dywedodd y bydd y torri coed yn cael "effaith fawr" gan fod y berllan yn fan sy'n cael ei defnyddio "gan rywogaethau'r fronfraith sy'n gaeafu, felly Ffair y Cae yn bennaf a rhywfaint o'r Goch Dan Adain (redwing).

"Maen nhw’n dueddol o ecsbloetio aeron yr hydref ac unwaith maen nhw wedi defnyddio’r rheini, maen nhw’n symud ymlaen at y cnydau afalau sydd ar ôl ar y llawr, felly roedd llu o'r fronfraith aeafol hyn yn y berllan hon."

Ychwanegodd: "Rwy'n meddwl mae'n anochel y bydd colled fawr yma, yn enwedig gyda'r poblogaethau gaeafu hynny."

Mae Mr Formaggia o'r farn nad oes "unrhyw graffu wedi bod ar hyn o gwbl - oherwydd dyw e ddim yn safle sy'n cael ei warchod yn genedlaethol, dyw e ddim yn dod o dan unrhyw graffu rheoleiddiol.”

Disgrifiad o’r llun,

Yr un man yn y berllan cyn... ac ar ôl y cynllun torri

Dywedodd Heineken UK bod hi'n "hynod bwysig ein bod yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn gynaliadwy bob amser ac felly rydym wedi cydymffurfio â'r Ddeddf Bywyd Gwyllt".

Mae'r farchnad seidr wedi arafu ac mae arferion tyfu wedi gwella, gan arwain at sbarion sylweddol o afalau seidr, yn ôl y cwmni.

Dywedodd eu bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r farchnad seidr gan fod y cwmni yn sylweddoli pwysigrwydd y farchnad i amaethyddiaeth ym Mhrydain.

'95% o ein perllannau wedi diflannu'

Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Cynhyrchwyr Seidr eu bod wedi "colli mwy na 2,000 erw o berllannau afalau seidr Prydain" yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ychwanegodd nad oes gan y coed yma "unrhyw ddefnydd arall heblaw am wneud seidr".

Mae'r farchnad seidr ym Mhrydain, meddai, wedi gweld dirywiad o "fwy na 30% yn y ddegawd ddiwethaf" a blynyddoedd Covid sydd wrth wraidd hynny.

Ond nid rhywbeth newydd yw gweld perllannau'n diflannu - mae 95% o berllannau Cymru wedi diflannu dros y 70 mlynedd diwethaf, yn ôl yr hanesydd bwyd Carwyn Graves.

Dywedodd fod 'na "sawl rheswm am hynny ond yn bennaf polisi llywodraeth ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn dweud wrth ffermwyr am arbenigo ac felly i gael gwared â'r coed".

Dywedodd fod y perllannau'n "amrywio yn sylweddol" o ran maint.

"Mae 'na rhai masnachol yn dal i fod, eithaf sylweddol ac wedyn mae'r ardal dan berllan yn dal i fod yn ddwy fil o erwau o'n tir ni, ond mae hwnna lawr o ddegau o filoedd o erwau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Adrián Morales a'i bartner Alys Williams yn defnyddio pob math o afalau yn eu seidr

Er gwaethaf yr heriau i'r diwydiant seidr, mae perllannau cymunedol a busnesau bragu seidr bach yn amlygu darlun ychydig yn wahanol.

Fe agorodd y bragwr Adrián Morales a’i bartner, Alys Williams, eu hystafell tap seidr yn Nhalgarth ym Mannau Brycheiniog tua blwyddyn yn ôl.

Erbyn hyn mae ganddyn nhw berllan drws nesaf sydd hefyd yn croesawu gwersyllwyr.

Dywedodd Adrián fod yn "rhaid i ni weld perllannau nid yn unig fel ffynhonnell hynod ddwys o afalau ond hefyd fel rhywle i gynnal gweithgareddau".

"Byddai'n dda cael mwy o gefnogaeth i annog pobl i wneud hynny ac ehangu be' mae perllannau yn eu gwneud, " ychwanegodd.

Dywedodd Alys: "Mae'n ymwneud â dysgu pobl am y cynnyrch ei hun a'i newid o'i stereoteip fel alcohol rhatach fyddai pobl yn arfer mynd amdano."

Ychwanegodd eu bod "wrth ein bodd yn dod â'n profiad o ogledd Sbaen a defnyddio gwahanol fathau o afalau - nid dim ond afalau seidr ond afalau coginio a bwyta hefyd sy'n creu seidr mwy asid. Mae hynny'n gallu mynd yn dda iawn gyda chaws a phethau felly."